£400,000 i droi hen Siop Griffiths, Penygroes yn llety

  • Cyhoeddwyd
Siop Griffiths, PenygroesFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y gwirfoddolwyr y byddai'r adeilad yn ailagor fel "rhywle i aros ac i gymdeithasu"

Mae grŵp cymunedol yng Ngwynedd wedi derbyn grant gwerth mwy na £400,000 er mwyn troi hen siop yn llety.

Bydd grant o £414,000 gan y Loteri Fawr yn galluogi gwirfoddolwyr i adfywio hen Siop Griffiths ym Mhenygroes erbyn diwedd y flwyddyn nesaf.

Bedair blynedd ers y cyfarfod cyhoeddus cyntaf i drafod achub Siop Griffiths, mae'r gymuned eisoes wedi llwyddo i godi £60,000 i brynu'r adeilad, gyda'r bwriad o agor caffi a chanolfan ddigidol yno yn 2019.

Bydd y grant newydd - o gynllun Pawb a'i Le - yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu llety a chyflogi Swyddog Marchnata a Datblygu.

"Nod y cynllun yw creu menter sy'n codi digon o incwm i gefnogi ein gweithgareddau i bobl ifanc a'r gymuned ym mhob rhan o'r adeilad," meddai Sandra Roberts, cadeirydd Siop Griffiths.

"Bydd y cynllun yn datblygu hyfforddiant i bobl ifanc ym meysydd lletygarwch, arlwyo a thwristiaeth, yn ogystal â chreu swyddi yn y busnesau."

Y gymuned 'wedi gweithio gyda'i gilydd'

Mae'r grŵp wedi codi bron i £800,000 i adnewyddu ac ehangu'r adeilad, gyda dros 150 o gyfranddalwyr cymunedol yn rhan o'r fenter.

Mae disgwyl i gaffi agor yn fuan yn 2019, a chanolfan ddigidol i bobl ifanc a'r gymuned fydd yn agor yn yr haf.

"Mae'r prosiect wedi llwyddo oherwydd bod y gymuned wedi gweithio gyda'i gilydd i gynllunio beth maen nhw eisiau ei weld yn yr adeilad a'r gymuned," meddai Ben Gregory, ysgrifennydd y fenter.

Mae Siop Griffiths yn un o'r adeiladau hynaf ym Mhenygroes, ond mae wedi bod ar gau ers 2010.

Cafodd ei hagor yn 1911 gan Thomas Griffiths, ac yn Waterloo House, Stryd y Dŵr, yr oedd hi wedi'i lleoli yn gyntaf, cyn symud i'r lleoliad presennol yn 1925.

Roedd y siop yn gwerthu pob math o ddeunyddiau at ddefnydd ffermwyr a'r cartref.