Pryder ffermwyr am system newydd cofnodi Treth ar Werth

  • Cyhoeddwyd
Cyfarfod yn Ninbych
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd cyfarfod ei gynnal yn Ninbych i esbonio'r newid

Mae nifer o ffermwyr wedi mynegi pryder wrth i'r system gofnodi Treth ar Werth gael ei wneud yn ddigidol y flwyddyn nesaf.

Bydd y system yn effeithio unrhyw fusnes sy'n ennill mwy na £85,000 y flwyddyn.

Mae Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM) yn dweud y bydd y cynllun newydd yn sicrhau "cywirdeb wrth gasglu trethi".

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi bod yn cynnal cyfarfodydd gwybodaeth er mwyn i ffermwyr ddeall effaith y newid.

'Mwy o wybodaeth'

Mewn cyfarfod ar gyfer ffermwyr lleol yn Ninbych dywedodd Erina Roberts, sy'n ffermio yn Llannefydd, : "Mae siŵr fydd o o help ond ella bydd o'n anodd i ffermwyr llai, ac ella i rai sydd ddim yn deall technoleg.

"Dwi'm yn siŵr os ydi o'n hollol angenrheidiol bod ni gorfod newid.

"Ar hyn o bryd mae gennai rhaglen Excel i wneud y Dreth ar Werth ond bydd hyn yn golygu llenwi rhaglen ar-lein a bydd hyn yn golygu bydd ganddyn nhw fynediad i'n cyfrif.

"Ydi hynny'n deg? 'Dwi ddim yn siŵr."

Tra bydd y newid yn effeithio ar nifer o ffermwyr a busnesau bach mae yna rai eithriadau i'r cynllun:

  • Os nad oes gennych fynediad at rwydwaith band eang;

  • Os ydych yn gwrthwynebu ar sail grefyddol;

  • Os ydych mewn oed.

Ond er bod rhai ffermwyr yn bryderus, yn ôl y cyfrifwyr Dunn & Ellis fydd y newid gweladwy yn gymharol fach.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y cyfrifydd Huw Wilcox o gwmni Dunn & Ellis Cyf. bydd y newid yn "gymharol fach" ar lawr gwlad

Dywedodd y cyfrifydd Huw Wilcox: "Mae'r effaith yn dibynnu ar y ffermwyr. Mae yna rai sy'n teimlo digon cyfforddus gyda'u sgiliau technoleg gwybodaeth.

"Bwriad gan CThEM ydi casglu treth yn gywirach. Mae'r tax gap wedi bod mewn bodolaeth ers sbel ac mae hynny yn parhau i gynyddu.

Dywedodd Mr Wilcox fod "nifer o ffermwyr yn bryderus ac yn poeni bod angen newidiadau mawr ar eu systemau nhw. Y gwir plaen ydy does dim newid mawr yn mynd i fod ar lawr gwlad.

"Os ydych dal i ddefnyddio llyfr mae hynna'n iawn, ewch i weld cyfrifydd ac mi wneith nhw sortio'r gweddill."

Bydd y newid yn dod i rym ar 1 Ebrill 2019.