Cyhoeddi aelodau cyntaf Senedd Ieuenctid Cymru

  • Cyhoeddwyd
senedd

Mae enwau aelodau cyntaf Senedd Ieuenctid Cymru wedi cael eu datgelu mewn cyhoeddiad arbennig yn y Senedd ym Mae Caerdydd.

Fe wnaeth 480 o ymgeiswyr sefyll mewn etholiadau ar draws y 40 etholaeth sy'n cyfateb i etholaethau'r Cynulliad Cenedlaethol.

Mae 20 aelod pellach wedi cael eu dewis gan sefydliadau eraill gan gynnwys Tros Gynnal Plant, Barnardos Cymru, Youth Cymru ac Anabledd Dysgu Cymru gyda'r nod o sicrhau amrywiaeth a hawliau cynhwysol i'r corff newydd.

Mae'r 60 aelod sydd wedi eu dewis yn cynnwys 24 o fechgyn a 36 o ferched.

'Torri tir newydd'

Cafodd yr etholiadau eu cynnal gydol mis Tachwedd gyda miloedd o bobl ifanc 11-18 oed yn bwrw'u pleidlais yn electroneg.

Llywydd y Cynulliad, Elin Jones wnaeth lansio'r ymgyrch i sefydlu Senedd Ieuenctid.

"Dyma gyfle euraidd i rymuso'r genhedlaeth nesaf ac rwy'n hyderus y bydd y grŵp hwn yn hyrwyddwyr gwych ar gyfer y materion sy'n bwysig i bobl ifanc Cymru heddiw," meddai.

Ychwanegodd wrth raglen Eye On Wales, BBC Radio Wales: "Mae cefnogaeth drawsbleidiol i sefydlu ac ethol senedd ieuenctid, ac mae'n deg dweud bod cryn dipyn o gyffro yn ein plith fel ACau fod cymaint o bobl ifanc wedi rhoi eu henwau ymlaen fel ymgeiswyr yn eu cymunedau.

"Mae'r etholiad yn torri tir newydd fel y senedd ieuenctid cyntaf i gael ei ethol yn uniongyrchol yn electroneg, felly ry'n ni wedi ei gwneud hi mor hawdd a chyffyrddus â phosib i bobl ifanc bleidleisio yn yr etholiad yma."

Disgrifiad,

Y Llywydd yn croesawu'r Senedd Ieuenctid

Yn unol â chasgliadau panel arbenigol ar ddiwygio etholiadol, mae cynlluniau ar gyfer cyfraith newydd fydd yn caniatáu i bobl 16 ac 17 oed bleidleisio yn etholiad nesaf y Cynulliad yn 2021.

Yr Athro Laura McAllister oedd cadeirydd y pwyllgor, a dywedodd: "O edrych ar y dystiolaeth mae cyfleoedd i gau'r bwlch sy'n bodoli ar hyn o bryd rhwng pobl ifanc a'r dosbarth gwleidyddol - mae'r bwlch yn enfawr yn nhermau sut y mae pobl ifanc yn teimlo eu bod yn rhan o wleidyddiaeth nawr a faint o gyfle sydd iddyn nhw fod yn rhan ohono."

Ychwanegodd fod gwell addysg wleidyddol a dinasyddiaeth mewn ysgolion yn rhan hanfodol o leihau'r oed pleidleisio.

"O weld sut mae'n cael ei ddysgu mewn ysgolion... ymwybyddiaeth pobl ifanc o hawliau'r unigolyn i bleidleisio, sut mae pleidleisio, sut mae pwyso a mesur addewidion maniffesto, gwrando ar ddarllediadau gwleidyddol - y gwir amdani yw ein bod yn gadael pobl ifanc heb yr arfau sydd eu hangen i wneud y pethau yna," meddai.

Bydd aelodau cyntaf Senedd Ieuenctid Cymru yn gwasanaethu am dymor o ddwy flynedd, ac fe fydd eu cyfarfod cyntaf ym mis Chwefror 2019 yn y Senedd.

Ffynhonnell y llun, Cynulliad
Disgrifiad o’r llun,

Bwriad y Senedd Ieuenctid yw i roi llais i bobl ifanc yng Nghymru

Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru:

Gogledd Cymru

  • Ynys Môn - Ifan Wyn Erfyl Jones

  • Arfon - Brengain Glyn Williams

  • Aberconwy - Evan Burgess

  • Gorllewin Clwyd - Harrison James Gardner

  • Dyffryn Clwyd - Jonathon Dawes

  • Delyn - Thomas Comber

  • Alun a Glannau Dyfrdwy - Nia Griffiths

  • Wrecsam - Jonathan Powell

  • De Clwyd - Talulah Thomas

  • Dwyfor Meirionnydd - Ifan Price

  • Sir Drefaldwyn - Abbey Carter

  • Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru - Grace Barton

  • Anabledd Dysgu Cymru - Katie Whitlow

  • Tros Gynnal Plant - Hasna Ali

Canolbarth Cymru

  • Ceredigion - Caleb Rees

  • Brycheiniog a Sir Faesyfed - Arianwen Fox-James

  • Preseli Penfro - Rhys Lewis

  • Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro - Cai Thomas Phillips

  • Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr - Marged Lois Campbell

  • Llanelli - Megan Carys Davies

  • Tros Gynnal - Ellie Murphy

Gorllewin De Cymru

  • Gŵyr - Ffion-Hâf Davies

  • Gorllewin Abertawe - Ubayedhur Rahman

  • Dwyrain Abertawe - Ruth Sibayan

  • Castell-nedd - Eleanor Lewis

  • Aberafan - Kian Agar

  • Ogwr - Laine Woolcock

  • Pen-y-bont ar Ogwr - Todd Murray

  • Rhondda - Alys Hall

  • Cwm Cynon - Eleri Griffiths

  • Pontypridd - Efan Rhys Fairclough

  • Bro Morgannwg - Lleucu Haf Wiliam

  • Talking Hands - William Hackett

  • Girlguiding Cymru - Nia-Rose Evans

  • Anabledd Dysgu Cymru - Anwen Rodaway

  • Talking Hands - Sophie Billinghurst

  • Tîm Cefnogi Ieuenctid Ethnig/RCC - Sandy Ibrahim

  • Barnardo's Cymru - Caitlin Stocks

  • Barnardo's Cymru - Casey-Jane Bishop

  • Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru - Oliver Davies

Dwyrain De Cymru

  • Gorllewin Caerdydd - Manon Clarke

  • Gogledd Caerdydd - Betsan Angell Roberts

  • Canol Caerdydd - Gwion Rhisiart

  • De Caerdydd a Phenarth - Rhian Shillabeer

  • Merthyr Tudful a Rhymni - Tommy Church

  • Blaenau Gwent - Calen Jones

  • Torfaen - Maisy Evans

  • Sir Fynwy - Lloyd Mann

  • Caerffili -Aled Joseph

  • Islwyn - Ffion Griffith

  • Gorllewin Casnewydd - Finlay Bertram

  • Dwyrain Casnewydd - Charley Oliver-Holland

  • EYST/Cyngor Hil Cymru - Angel Ezeadum

  • Urdd Gobaith Cymru - Greta Evans

  • Youth Cymru - Abbie Cooper

  • Voices from Care - Chloe Giles

  • Youth Cymru - Levi Rees

  • Gwasanaeth Ieuenctid Caerffili - Luke Parker

  • Barnardo's Cymru - Abby O'Sullivan

  • NYAS Cymru - Carys Thomas