Carcharu dyn am oes am ladd ei gymar yn eu cartref

  • Cyhoeddwyd
Swyddogion fforensig yr heddlu'n cynnal profion yng nghartref Denise RosserFfynhonnell y llun, BBC/FAMILY PHOTO
Disgrifiad o’r llun,

Swyddogion fforensig yr heddlu'n cynnal profion yng nghartref Denise Rosser wedi i'w chorff gael ei ddarganfod ddiwedd Mai

Mae dyn 50 oed o Ferthyr Tudful wedi cael dedfryd o garchar am oes ar ôl i reithgor ei gael yn euog o lofruddio ei gymar yn eu cartref.

Bydd yn rhaid i Simon Winstone dreulio o leiaf 18 mlynedd dan glo am ladd Michelle Rosser, 38 - oedd yn cael ei nabod fel Denise - ym Medlinog ym mis Mai.

Roedd y diffynnydd yn honni bod rhywun arall wedi ei llofruddio tra'i fod yntau yn cysgu yn yr ystafell.

Wrth ddedfrydu Winstone, fe ddywedodd y Barnwr Eleri Rees bod anafiadau Ms Rosser "wedi eu cymharu â rhai y bydde rhywun yn eu cael mewn damwain ffordd" ac y byddai "wedi dioddef poen echrydus".

Swyddogion heddlu ddaeth o hyd i'w chorff ar soffa yn ei chartref yn Stryd Lewis ar 29 Mai yn dilyn galwad gan berson oedd yn poeni am les menyw yn yr adeilad.

Roedd wedi cael 28 toriad i'w hasennau, roedd ei haren wedi rhwygo ac roedd ganddi anafiadau i'r pen, bron a'r stumog.

'Ni wnawn fyth wybod y stori gyflawn'

Clywodd Llys y Goron Merthyr Tudful bod perthynas y cwpwl yn "danllyd" a "chythryblus".

Ddiwrnod cyn y llofruddiaeth, cafodd Winstone ei weld yn gwthio Ms Rosser i fin sbwriel ac yn ei chloi o'r tŷ, ac roedd cymdogion wedi clywed y ddau yn "sgrechian a gweiddi" ar ei gilydd.

Drannoeth fe gafodd Winstone ei glywed yn gweiddi "mae hi wedi mynd, mae hi wedi mynd", ac roedd yn siglo ei chorff yn ei freichiau pan gyrhaeddodd yr heddlu.

Ffynhonnell y llun, Athena pictures
Disgrifiad o’r llun,

Doedd dim emosiwn ar wyneb Simon Winstone wrth i'r barnwr ei ddedfrydu

Clywodd y llys hefyd bod Ms Rosser wedi colli'r golwg yn ei llygad dde wedi i dri dyn ymosod arni yn ei chartref yn 2009, a bod Winstone wedi ymosodod arni yn gorfforol yn ystod eu perthynas.

Dywedodd y barnwr: "Yn amlwg, roedd yna nifer o ymosodiadau dros nifer o oriau. Ni wnawn fyth wybod y stori gyflawn ond mae'n rhaid ei bod [Denise Rosser] wedi dioddef poen echrydus y noson honno.

"Roedd hi ond yn bum troedfedd dwy fodfedd o daldra ac yn pwyso chwe stôn. Roedd yn fregus oherwydd ei dibyniaeth ar alcohol a ddim yn gallu amddiffyn ei hun oherwydd y gwahaniaeth corffolaeth rhyngddoch chi'ch dau."

Doedd dim emosiwn ar wyneb Winstone wrth iddo gael ei ddedfrydu.

'Penderfynol, cariadus a serchus'

Mewn datganiad ar ran teulu Ms Rosser, dywedodd ei llys-fam, Wendy Rosser: "Roedden ni'n caru Denise yn fawr, beth bynnag yr amgylchiadau.

"Roedd hi'n benderfynol ac yn gwneud pethau yn anodd ar brydiau ond roedd yn aml yn gallu bod yn gariadus ac yn serchus.

"Mae colli Denise dan y fath amgylchiadau trist wedi effeithio arnon ni i gyd ac mae gorfod dod i delerau â chlywed am ei bywyd a'r dioddefaint oherwydd Simon Winstone wedi bod yn boenus."

Mae'r teulu'n galw ar ddioddefwyr trais yn y cartref i chwilio am gymorth "cyn bod hi'n rhy hwyr".