Dreifio? Dim diolch!
- Cyhoeddwyd
Ehangu gorwelion a chael 'chydig mwy o ryddid. Does ryfedd bod cymaint o bobl ifanc yn awyddus i gael gwersi gyrru.
Ond dyw Llion Carbis, sy'n fyfyriwr newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Caerdydd, ddim yn gwirioni 'run fath. Bu'n egluro wrth Cymru Fyw pam nad yw'n barod i roi troed ar y sbardun...
Yn hanesyddol, mae ceir wedi bod gyfystyr ag eiddo ffasiynol ac apelgar. Nid yn unig am eu bod yn ymarferol ond hefyd yn hanfodol i bobl. Er enghraifft, maen nhw'n galluogi pobl i deithio pellteroedd maith at eu gwaith ac yn hwyluso bywyd yn gyffredinol.
O safbwynt pobl ifanc, yn enwedig y rhai digon ffodus i gael car, mae ceir yn golygu rhyddid, y gallu i deithio i unrhyw le pan maen nhw'n dymuno, heb ymyrraeth allanol - yn bennaf gan eu rhieni. Er hynny dwi'n perthyn i grŵp cynyddol o bobl ifanc sydd wedi dewis peidio â dysgu gyrru, neu bod yn berchen ar car.
Y llynedd, dangosodd ystadegau'r DVSA (Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau) bod nifer y bobl ifanc sydd yn dysgu gyrru wedi gostwng 28%, ers 2007/08. Gyda nifer gynyddol o bobl ifanc yn penderfynu peidio eistedd tu ôl i'r olwyn, beth sydd wrth wraidd y penderfyniad i beidio gyrru?
Ar dy feic...
Fel un sy'n enedigol o Gaerdydd, ac wedi dewis aros i astudio yn y brifddinas, nid yw gyrru erioed wedi bod yn flaenoriaeth i mi. Rwy'n ffodus fod gan Gaerdydd system drafnidiaeth sefydlog, ac mae teithio ar y trên i ganol y ddinas yn llawer mwy hwylus na gyrru mewn car.
Mae'r elusen Sustrans, sy'n annog pobl i gerdded neu seiclo wrth deithio'n lleol, yn atgyfnerthu nad defnyddio car yw'r modd gorau o deithio o amgylch dinas.
"Dy'n ni'n awgrymu mai nid gyrru yw'r ffordd orau i deithio yn y rhan fwyaf o drefi a dinasoedd. O safbwynt amgylcheddol a iechyd y cyhoedd, defnyddio car yw'r ffordd fwyaf niweidiol o deithio o A i B. Mae'n ymddangos bod pobl ifanc yn dangos ymwybyddiaeth o hynny, a synhwyro bod ffyrdd gwell o deithio."
Rwy'n derbyn bod yna brinder trafnidiaeth gyhoeddus safonol yn rhai o ardaloedd gwledig Cymru. Ond, dyma ble mae cost perchen ceir yn chwarae rôl hollbwysig.
Ers i'r Deyrnas Unedig bleidleisio o blaid Brexit, mae prisiau ceir newydd wedi cynyddu o fwy na 5% yn ôl cylchgrawn What Car?, ac mae'r rhagolygon diweddaraf yn darogan y bydd prisiau ceir yn parhau i gynyddu ar ôl i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd yn swyddogol. Hefyd, mae prisiau petrol wedi codi, ac mae pris diesel ar ei lefel uchaf ers Mawrth 2014.
I Gwion Williams, sy'n fyfyriwr ail flwyddyn ym Mhrifysgol Southampton, mae'r ffactor ariannol wedi cael dylanwad mawr ar ei benderfyniad i beidio dysgu gyrru.
"Nes i benderfynu peidio gyrru oherwydd nes i symud i'r brifysgol, a do'n i ddim yn meddwl y bydden i'n defnyddio'r car yn ddigon aml i gyfiawnhau prynu un.
"Hefyd, wrth ystyried ffioedd dysgu a chostau byw, dwi'n credu bod talu am wersi a phrynu car yn ormod o straen ariannol. Ond, yn y dyfodol, gyda theulu, fe fydd yn angenrheidiol."
Llygredd
Fel llawer o bobl eraill, mae gen i lawer i'w wneud i fyw yn fwy amgylcheddol a chynaliadwy. Rwy'n wyliadwrus o'm hôl traed carbon, a gyda'r Cenhedloedd Unedig yn dweud mai dim ond 12 mlynedd sy'n weddill i gwtogi effeithiau newid hinsawdd, mae'n werth ystyried y ffactorau amgylcheddol.
Yn flynyddol, mae bywydau 40,000 o bobl ym Mhrydain yn cael eu byrhau gan lygredd aer, ac mae ceir yn rhan o'r broblem. Mae mudiad amgylcheddol Cyfeillion y Ddaear yn honni bod dwy ran o dair o deithiau ceir ym Mhrydain yn llai na phum milltir o hyd, sy'n amlygu'r angen i ddefnyddio ceir yn fwy synhwyrol.
Yn amlwg, bydd atal defnydd ceir yn gyfangwbl ddim yn datrys y problemau sy'n deillio o newid hinsawdd. Mae'n werth ystyried hefyd bod defnydd ceir trydanol a cheir hybrid yn chwarae rôl bwrpasol tuag at leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr.
Fodd bynnag, mae'n gor-ddibyniaeth ni ar geir yn cyfrannu'n sylweddol at y llygredd sy'n cael ei achosi ar ffyrdd ar hyd a lled Prydain. Os na wnawn ni weithredu nawr a dibynnu llai ar y car mae'n bosib y byddwn ni'n wynebu goblygiadau difrifol yn y dyfodol.
Hefyd o ddiddordeb: