Tirlithriad yng Ngwynedd a thywydd garw'n achosi problemau

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Ceir yn gyrru trwy lifogydd yn Llanilltern ar gyrion Caerdydd fore Gwener

Mae'n bosib bod y tywydd gaeafol wedi bod yn rhannol gyfrifol am dirlithriad rhwng Porthmadog a Borth-y-gest yng Ngwynedd, yn ôl y cyngor sir.

Dywedodd llefarydd nad ydyn nhw'n gwybod eto "union achos y tirlithriad", ond ei bod hi'n debygol fod y tywydd wedi cael effaith.

Daw hynny yn dilyn tywydd garw sydd wedi achosi trafferthion ar draws de a chanolbarth Cymru fore Gwener.

Roedd y Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am law trwm dros holl siroedd y de a rhannau o Bowys rhwng 01:00 a 09:00.

Rhwystro mynediad

Yn y digwyddiad yng Ngwynedd fe wnaeth pentwr o rwbl ddisgyn ar Ffordd Garth gan effeithio ar fynedfa i rhwng 20 a 30 o gartrefi.

Eisoes mae contractwyr wedi dechrau clirio tua 50 tunnell o rwbel ar y safle.

Maen nhw'n ffyddiog y bydd digon wedi ei glirio nos Wener i adael i bobl allu cerdded i'w cartrefi, a bod mynediad i gerbydau brys pe bai angen.

Fe fydd peirianwyr yn cynnal asesiad arall o'r safle yn y bore.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r tirlithriad wedi effeithio ar rhwng 20 a 30 o gartefi

Ar draws rhannau eraill o Gymru mae'r Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi bod yn delio gyda nifer o ddigwyddiadau.

Cafodd dyn ei achub o'i gerbyd wedi iddo fynd i lifogydd ym Mhont-Y-Clun.

Yn Llanwrtyd fe wnaeth dynes 90 oed alw'r gwasanaethau brys pan ddaeth dŵr llifogydd i mewn i'w chartref, ac yn Nhreherbert mae wal a draen wedi dymchwel.

Bu criwiau o Dreorci a Thonypandy yn pwmpio dŵr o'r eiddo yna.

Rhybuddion llifogydd

O ran trafnidiaeth gyhoeddus bu oedi ar wasanaethau bws rhwng Aberdâr a Phontypridd.

Fe ddywed Cyfoeth Naturiol Cymru, dolen allanol am 17:00 ddydd Gwener fod dau rybudd llifogydd mewn grym, a 19 o rybuddion i fod yn barod am lifogydd.

Mae'r ddau rybudd mewn grym ar:

  • Afon Ritec yn Ninbych-y-pysgod;

  • Afon Elái yn Llanbedr-y-fro.