Y Bencampwriaeth: Brentford 2-3 Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Brentford v AbertaweFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Wayne Routledge sgoriodd gôl gyntaf y gêm gyda llai na munud ar y cloc

Llwyddodd Abertawe i sicrhau tri phwynt oddi cartref yn Brenford gyda buddugoliaeth o 3-2 wedi perfformiad hanner cyntaf arbennig.

Roedd yr Elyrch ar y blaen llai na munud fewn i'r gêm diolch i ergyd Wayne Routledge o du fewn y cwrt cosbi.

Daeth oedi hir i'r chwarae wedyn ar ôl i Martin Olsson fynd lawr gydag anaf.

Ar ôl bron i saith munud o driniaeth daeth Connor Roberts ymlaen yn ei le.

Fe ddyblodd Abertawe eu mantais wedi 22 munud. Y Cymro Chris Mepham osododd y bêl yn ei rwyd ei hun.

Pum munud yn ddiweddarach fe sgoriodd Leroy Fer wedi gwaith da gan Ollie McBurnie.

Llwyddodd Brentford i sgorio un gôl cyn yr egwyl gyda Ollie Watkins yn penio'r bêl i gefn y rhwyd gyda dau funud yn weddill o'r hanner cyntaf.

Y tîm cartref ddechreuodd yr ail hanner y cryfaf gyda Neil Maupay yn mynd yn agos gydag ergyd wedi 53 munud.

Gydag 20 munud yn weddill fe sgoriodd Brentford eu hail o'r gêm. Cic rydd wych gan Said Benrahma yn hedfan i gornel uchaf y rhwyd.

Fe wnaeth Brentford barhau i bwyso am eu trydedd gôl ac wedi sawl cic gornel a chiciau rhydd aflwyddiannus, roedd y tair gôl yn yr hanner cyntaf yn ddigon i Abertawe gipio'r tri phwynt.