Dynes wedi'i hanafu mewn digwyddiad 'difrifol' yn Nhonypandy
- Cyhoeddwyd
Mae ffordd wedi' ail agor yn Rhondda Cynon Taf yn dilyn digwyddiad "difrifol" rhwng cerbyd a dynes fore Sul.
Mae Heddlu'r De wedi cadarnhau fod y gwrthdrawiad wedi digwydd ar Ffordd Princess Louise yn Nhonypandy.
Does dim gwybodaeth ynglŷn â chyflwr y ddynes.
Roedd y ffordd fod ar gau am beth amser wrth i'r heddlu ymchwilio , ac mae'r llu yn apelio i unrhyw un gyda gwybodaeth i gysylltu gyda nhw ar 101.