Cynlluniau i agor hosbis newydd yng Nghaergybi
- Cyhoeddwyd
Cadarnhawyd y bydd y gwaith adeiladu ar hosbis newydd ar Ynys Môn yn dechrau yn 2019.
Dywed Hosbis Dewi Sant, sydd tu ôl i'r fenter, mai'r prif fwriad ydi gwella'r ddarpariaeth yn y gogledd-orllewin i gleifion sy'n derfynol wael.
Bydd ward yn Ysbyty Penrhos Stanley yn cael ei haddasu i greu'r hosbis, fydd â phedwar gwely.
Y gobaith yw y bydd 15 o swyddi newydd yn cael eu creu yn yr uned.
Uned arall yn ne Gwynedd?
Mae Hosbis Dewi Sant hefyd yn edrych ar y posibilrwydd o agor uned debyg yn ne Gwynedd yn y dyfodol.
Bydd y gwaith adeiladu yng Nghaergybi yn dechrau ym mis Ebrill - flwyddyn ers uno Hosbis Dewi Sant a Hosbis yn y Cartref i greu un elusen yng Nghonwy, Gwynedd a Môn.
Mae'r elusen yn cyflogi dros 150 o staff yn ei phencadlys yn Llandudno ac mewn nifer o siopau ar draws y gogledd, ac yn ôl ei phrif weithredwr, Trystan Pritchard, maent yn gosod sylfaen gadarn ar gyfer y dyfodol.
Mae'r hosbis wedi derbyn grant o £450,000 o Gronfa'r Loteri Fawr ar gyfer y fenter, ac wedi cael cefnogaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, sy'n rhoi'r gofod iddynt ar ei gyfer. Bydd y grant yn helpu tuag at gyflogi staff yn cynnwys nyrsys a gweithwyr codi arian, am dair blynedd.
Maent hefyd yn hyderus o gyrraedd incwm o £1m o'u siopau elusen am y tro cyntaf.
"Dim ond ym mis Ebrill y gwnaeth y ddwy elusen uno," meddai Mr Pritchard, "ond eisoes rydym wedi gweld pawb yn dod at ei gilydd gydag un peth mewn golwg, sef gwella ein gwasanaeth ac ehangu'r gofal yr ydym yn ei gynnig i gymunedau yn y gorllewin.
"Yng Ngwynedd a Môn 'does yna ddim gwelyau hosbis i gleifion mewnol ar hyn o bryd ac rydan ni am newid hynny.
"Mi fydd agor yr uned yng Nghaergybi yn mynd a chyfanswm ein gwelyau i 17, ac rydym hefyd yn chwilio am leoliad addas yn ne Gwynedd i gynyddu'r ffigwr hwnnw ymhellach."
Anodd cael gwely
Dywedodd Metron Hosbis Dewi Sant, Glenys Sullivan, bod gormod o bobl yn ei chael hi'n anodd cael gwely mewn hosbis ar gyfer gofal diwedd oes.
"Rydym eisiau darparu gwasanaeth ar gyfer cymaint o bobl â phosib fel bod gan bobl ddewis yn y pethau sy'n bwysig iddyn nhw, yn cynnwys lle maent yn derbyn eu gofal.
"Mi fydd Dewi Sant yn parhau i weithio a chefnogi'r gwasanaeth yn y cartref yng Ngwynedd a Môn," ychwanegodd.