Bangor v Caernarfon ym mhedwaredd rownd Cwpan Cymru

  • Cyhoeddwyd
Cwpan CymruFfynhonnell y llun, David Rawcliffe/CBDC

Mae'r enwau allan o'r het ar gyfer pedwaredd rownd Cwpan Cymru, a'r gêm sy'n tynnu'r sylw yn syth yw Bangor i wynebu eu hen elynion Caernarfon yn Stadiwm Nantporth.

Bydd deiliaid y cwpan, Cei Connah yn ymweld â Chaerfyrddin ac mae'r clwb isaf ei safle yn y pyramid pêl-droed (sy'n dal yn y gystadleuaeth), Llangefni, wedi sicrhau gêm gartref yn erbyn Llandudno.

Mae dwy gêm yn cynnwys dau dîm o'r Uwch Gynghrair yn wynebu ei gilydd wrth i'r Barri baratoi i wynebu Derwyddon Cefn ac Aberystwyth i groesawu MET Caerdydd.

Bydd y gemau yn cael eu chwarae ar benwythnos 25 a 26 Ionawr.

Y Gemau'n llawn:

  • Caerfyrddin v Cei Connah

  • Hwlffordd v Fflint neu'r Bala

  • Bangor v Caernarfon

  • Y Barri v Derwyddon Cefn

  • Airbus v Y Seintiau Newydd

  • Cambrian a Clydach v Y Rhyl

  • Aberystwyth v MET Caerdydd

  • Llangefni v Llandudno