Tinsel a tantryms: Realiti Nadolig gyda phlant
- Cyhoeddwyd
Mae realiti Nadolig gyda phlant yn wahanol i'r delweddau perffaith sy'n cael eu dangos ar wefannau cymdeithasol.
Gyda'i 'angylion bach' hi rwan yn eu harddegau, Beca Brown sy'n rhannu ei phrofiadau dros y blynyddoedd.
Nadolig, a'r teulu o gylch y tân yn llawn hwyliau - y plant yn fochgoch ddisgwylgar ac yn ddiolchgar am bob rhodd a ddaw i'w rhan - yn fach neu'n fawr.
Chwarae gemau bwrdd, cyd-ganu carolau a'r plantos ufudd yn eu gwlâu yn cysgu ymhell cyn dyfodiad y dyn mawr coch. Nadolig cerdyn cyfarch - neu Instagram erbyn hyn, o bosib.
Ai felly mae hi acw yn eich tŷ chi? Neu ai catalog teganau ydi'r Beibl newydd a hwnnw wedi ei fodio'n gyrbibion a phob tudalen yn yr adran deganau wedi ei blygu'n farus?
Ydi'r plant bob tro yn bwyta gormod o fferins, a hynny'n esgor ar draddodiad newydd digroeso o ddadlau'n hyll efo'i gilydd am bwy sydd â'r nifer fwyaf o anrhegion o dan y goeden? Ydi Baby Shark wedi dad-orseddu'r Baban Iesu ar y jiwc bocs tymhorol?
I nifer fawr ohonom ni - petai ni'n onest - mae'r gagendor rhwng disgwyliad a realaeth yn chwerthin am ein pennau ni bob blwyddyn, a'r cyfan y gallwn ni ei wneud mewn gwirionedd ydi estyn am y Baileys ac ymuno yn yr hwyl. Dyna ydi'r Nadolig ynte - tinsel a tantryms, yn gymysg oll i gyd.
Rydw i wastad wedi gweld yr ŵyl yn straen braidd - y pwysau i greu a chyflwyno'r Nadolig 'perffaith' (beth bynnag ydi hynny) i blant bach sydd wedi eu gor-lwytho â siwgr a chyffro a disgwyliadau afresymol.
Mae'r syniad yn hyfryd yn dydi - amser hamddenol efo'r plant, y 'quality time' hwnnw yng nghanol y Quality Street; yr 'amser teulu' gwerthfawr hwnnw rydan ni i gyd yn breuddwydio amdano fo.
Gweithio tan y funud olaf
Ond y realaeth i nifer ohonom ni ydi gorfod gweithio tan y funud olaf, sy'n golygu wrth gwrs fod y siopa a'r paratoi yn frys gwyllt a phawb yn bigog a blinedig.
Mae'r rhestr o heriau tymhorol yn hirfaith, ac mae yna rai gwahanol yn dod i'n rhan bob blwyddyn, yn dibynnu ar oed ein hangylion bach. Dyma rai o uchafbwyntiau ein tŷ ni:
Y flwyddyn ysgrifennodd Tomi at Siôn Corn a phostio ei lythyr cyn ei ddangos o i fi. Doedd gen i ddim syniad beth oedd o wedi gofyn amdano fo ac roedd o'n gwrthod dweud - cyfrinach rhyngtho fo a Siôn Corn, wrth gwrs. Emoji wyneb panics.
Y flwyddyn fethodd Leisa â mynd i gysgu nes ei bod hi fwy neu lai yn amser iddi godi. Roedd hi fyny a lawr y grisiau am oriau, a oedd yn golygu wrth gwrs fod dim posib i'r dyn coch wneud ymddangosiad.
Dwi'n dal i feddwl tybed beth fyddai wedi digwydd petai hi ddim wedi cysgu o gwbl - fyddai Siôn Corn wedi gorfod gadael ei lwyth yn yr ardd?
Nadolig y Red Bull oedd hwnnw. Emoji matshus yn y llygaid.
A dyna'r blynyddoedd canol, wedyn. Blynyddoedd y cwestiynau anodd. Blynyddoedd yr hwyhau diniweidrwydd plentyndod v gwahodd bwlio.
Aeth Tomi i'r ysgol uwchradd yn - sut ddudwn ni - yn ddiniwed, ac roeddwn i'n pendroni'n hir ynglŷn â beth i'w wneud. Penderfynu codi'r peth efo fo nes i yn y diwedd - a difaru'n syth.
"Mam, ti 'di ga'l o'n rong, sdi!" oedd yr ymateb cyntaf, a ryw olwg ar ei wyneb yn pitïo ei fam druan am fod mor ddwl. A fo oedd yn iawn, wrth gwrs.
Sut y medrwn i fod mor ddwl? "Mae o'n bod", fel y dywedodd TH Parry Williams am y Tylwyth Teg, a dyna ydi cyfraniad mwyaf plant i'r ŵyl arbennig yma - eu diniweidrwydd.
Cododd y mater ei ben yn naturiol wedyn wrth gwrs, a'r cwestiwn mawr bryd hynny oedd, "Ond…hol dannedd pwy sydd yn y moron ta?"
Erbyn hyn mae fy angylion bach i yn angylion tipyn mwy - nhw sydd â'r partïon Nadolig erbyn hyn, a finnau'n dacsi.
Dydw i'n disgwyl dim oll o'r Nadolig ers rhai blynyddoedd bellach, ac mae'r pytiau o lawenydd a ddaw - yng nghanol y tinsel a'r tantryms a'r tacsis - yn ddigon.
Dydi 'digon da, duwcs' ddim yn cyrraedd safonau amhosib Instagram - ond os mai dyna sut oedd eich Nadolig chi eleni, mi fedrwch chi deimlo'n ddigon hapus eich byd.
Efallai hefyd o ddiddordeb: