Brwydro yn erbyn taflu gwastraff bwyd

  • Cyhoeddwyd
Gwirfoddolwyr FareShare CymruFfynhonnell y llun, FareShare Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Gwirfoddolwyr FareShare Cymru yng Nghaerdydd

Mae tua 400,000 tunnell o fwyd yn cael ei wastraffu mewn tai yng Nghymru pob blwyddyn, gyda'r ffigwr yn codi dros y Nadolig.

Mae hynny'n golygu bod rhaid meddwl am ffyrdd newydd o arbed bwyd rhag cael eu taflu'n ddiangen.

Oergelloedd Cymunedol, sy'n storio gweddillion bwyd, yw un o'r atebion yn ne a gorllewin Cymru.

Yn ogystal â sicrhau bod llai o fwydydd da yn mynd i'r bin, maen nhw'n helpu pobl sy'n llwgu.

"Mae myfyrwyr yn dod... neu bobl sydd wedi rhedeg allan o fudd-daliadau ac sydd methu bwydo eu plant," meddai Polly Wilson, sy'n gyfrifol am brosiect Oergell Gymunedol yng Nghaerdydd.

Mae hi'n pwysleisio bod y bwyd am ddim i unrhyw un sydd ei angen.

"Does neb yn sefyll yno yn eu barnu. Rydych chi'n cymryd yr hyn yr ydych ei eisiau a'r hyn sydd ei angen arnoch."

Rhoddion gan sioeau coginio

Mae'r oergell, sydd wedi'i leoli ger Canolfan Gymunedol Cathays yng Nghaerdydd, wedi'i staffio'n gyfan gwbl gan wirfoddolwyr.

Maen nhw'n tynnu bwyd o'r oergell sydd wedi mynd heibio'i ddyddiad gorau ac yn cofnodi beth sy'n mynd i mewn.

Daw'r bwyd yn bennaf gan archfarchnadoedd, ond maen nhw hefyd wedi cael rhoddion gan sioeau coginio oedd yn ffilmio yn yr ardal.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cymhariaeth Nadoligaidd: Mae 636,000 o geirw'n pwyso'r un faint â swm y moron sydd wedi eu taflu ym mhob cartref yn y DU bob blwyddyn

FareShare ydy'r elusen sy'n cydlynu'r rhoddion bwyd.

Mae'r bwydydd yn dod mewn i warws ar gyrion Caerdydd bum diwrnod yr wythnos ac yna'n cael eu cofnodi gan 24 o wirfoddolwyr.

Yna mae'r elusen yn gweithio gyda chymunedau i ddosbarthu'r bwydydd.

Ond mae rhai perchnogion siopau yn edrych ar ffyrdd newydd o daclo'r broblem.

Mae apiau ffôn fel Too Good To Go ac Olio yn caniatáu cwsmeriaid i brynu bwyd sydd heb ei werthu gan gaffis a bwytai lleol am bris tipyn llai.

Dywedodd Neesha Ali, rheolwr siop frechdanau Dough yng Nghaerdydd, bod Too Good To Go wedi bod o ddefnydd mawr iddi.

"Mae'n helpu cryn dipyn ar fyfyrwyr," meddai.