Galw am newid i atal 'dwyn' o gyrff y meirw mewn ysbytai

  • Cyhoeddwyd
Mark
Disgrifiad o’r llun,

Bwriad Mark oedd uno'r ddwy fodrwy ar ôl i'w ŵr, Luke farw yn gynharach eleni

Mae dyn sy'n honni bod diemwntau wedi eu dwyn o fodrwy ar gorff ei ŵr am weld mwy yn cael ei wneud i warchod eiddo cleifion mewn ysbytai.

Yn dilyn marwolaeth Luke Bevan Taylor Reeve, fe geisiodd ei bartner, Mark, dynnu ei fodrwy ddyweddïo oddi amdano - ond pan gafodd y corff ei ryddhau o farwdy Ysbyty Brenhinol Morgannwg roedd dwy em ar goll.

Bellach, mae Mark am weld y rheolau'n newid fel bod llun yn cael ei dynnu o eiddo cleifion.

Ar ôl cynnal ymchwiliad, nid yw Bwrdd Iechyd Cwm Taf yn derbyn bod y diamwntau wedi cael eu dwyn yn yr ysbyty.

'Tynnu llun o eiddo'

"Mae'n beth ffiaidd i feddwl bod rhywun yn gallu dwyn oddi ar berson sydd wedi marw," meddai Mark.

Mae'r tad maeth 52 oed, sy'n byw yn Nhreherbert yn Rhondda Cynon Taf, yn rhannu ei stori wrth i waith ymchwil gan BBC Cymru ddatgelu bod 600 o achosion o ddwyn wedi eu cofnodi gan gleifion a staff mewn ysbytai ar draws Cymru rhwng 2014 a 2018.

Ymysg yr eitemau gafodd eu cymryd, yn ôl yr ystadegau, roedd gemwaith, arian, dillad a hyd yn oed offer meddygol.

Ond prin yw'r honiadau o ddwyn o farwdai, gyda dim ond un cwyn wedi ei gofnodi ers mis Mawrth 2014.

Roedd Cwm Taf yn ystyried cwyn Mark fel eitem coll, er gwaetha'r ffaith ei fod wedi cofnodi'r cwyn fel achos o ddwyn, a chafodd ymchwiliad ei gynnal.

Disgrifiad o’r llun,

Aelod Seneddol Rhondda ydy Chris Bryant

Mae Aelod Seneddol lleol Mark, Chris Bryant, yn dweud ei fod yn ymwybodol o deuluoedd eraill sy'n honni bod gemwaith wedi ei ddwyn oddi ar gyrff aelodau o'u teuluoedd ar ôl iddyn nhw farw.

Mae Mr Bryant yn poeni nad yw achosion o ddwyn yn cael eu cofnodi'n gywir gan fyrddau iechyd.

"Rwy' wedi gweld pobl yn eu dagrau gan eu bod nhw'n rhoi'r bai arnyn nhw eu hunain," meddai.

Mae AS Rhondda, yn ogystal â Mark, ac yn galw am newid rheolau'r gwasanaeth iechyd fel bod eiddo pawb sy'n mynd i mewn i ysbyty, boed yn fyw neu'n farw, yn cael ei gofnodi drwy dynnu llun.

Ar hyn o bryd, mae'r rheolau'n amrywio rhwng y byrddau iechyd, gyda chleifion yn cael eu rhybuddio na ddylen nhw fynd ag eitemau gwerthfawr i mewn i ysbytai.

Mae eiddo yn cael ei gofnodi a'i storio, gydag eitemau'n cael eu rhoi yn ôl i deuluoedd ar ôl i'w perthnasau gael eu rhyddhau o farwdai.

'Pobl yn eu dagrau'

Bu farw Luke, oedd yn dad i ddau o blant, yn sydyn yn 37 oed yng nghartref y cwpl ar 12 Gorffennaf.

Fe geisiodd Mark a'i ffrind dynnu'r fodrwy oddi amdano - ond doedd hynny ddim yn bosib cyn i'r corff gael ei drosglwyddo i'r marwdy.

Bwriad Mark oedd uno modrwy Luke gyda'i fodrwy ei hun er cof amdano.

Ond dywedodd Mark ei fod wedi ei syfrdanu pan ddywedodd yr ymgymerwr bod y gemau ar goll.

Mae o'r farn bod rhywun wedi gwneud ymdrech fawr i gymryd y diemwntau gan bod dipyn o waith cryfhau wedi cael ei wneud ar y fodrwy.

Disgrifiad o’r llun,

Modrwy Luke Bevan Taylor Reeve, sydd â diemwntau ar goll

Fe gysylltodd Mark â'r bwrdd iechyd, a ddaeth i'r casgliad nad oedd unrhyw dystiolaeth o ddwyn yn dilyn ymchwiliad.

Mewn llythyr iddo, dywedodd y bwrdd iechyd bod cofnodion yn dangos bod y fodrwy wedi cyrraedd, ac wedyn gadael y marwdy, ond wnaeth neb sylwi bod y gemau ar goll.

Fe gysylltodd Mark â'r heddlu, ond doedden nhw ddim yn gallu cynnal ymchwliad llawn gan nad oedd tystiolaeth ar fideo.

"Rwy'n gwybod na fydda i'n cael y gemau yn ôl, ond rwy' am wneud pobl eraill yn ymwybodol o'r sefyllfa fel eu bod nhw'n tynnu gemwaith oddi ar eu perthnasau er mwyn osgoi sefylla debyg," meddai Mark.

Ymchwiliad 'llawn a thrylwyr'

Mewn datganiad, dywedodd Bwrdd Iechyd Cwm Taf nad oedd modd iddyn nhw wneud sylw ynglŷn ag achosion unigol.

Ychwanegon nhw eu bod nhw'n cymryd y cyfrifoldeb o ymdrin ag eiddo cleifion "o ddifrif".

"Yn ôl ein polisi, mae cofnod yn cael ei gadw o eitemau gwerthfawr sy'n dod i mewn, ac yn gadael ein hysbytai.

"Fe fyddwn ni'n cynnal ymchwiliad llawn a thrylwyr pob tro ar ôl clywed unrhyw bryderon ynglŷn ag eiddo cleifion."

Wrth ymateb i'r awgrym y dylai llun gael ei dynnu o eiddo cleifion, dywedodd Llywodraeth Cymru fod gan bob bwrdd iechyd polisïau sy'n sicrhau bod eitemau personol yn cael eu cadw'n ddiogel.