Cwmnïau teledu angen 'addasu i arferion gwylio newydd'
- Cyhoeddwyd
Mae'n rhaid i gwmnïau teledu addasu er mwyn osgoi cael eu "gadael ar ôl" gan arferion gwylio newydd, medd cynhyrchydd blaenllaw.
Fe sefydlodd Dylan Huws gwmni cynhyrchu Cwmni Da yng Nghaernarfon yn 1996 i wneud rhaglenni Cymraeg a Saesneg.
Mae yn y broses o werthu ei ran o'r busnes i staff, gydag ymddiriedolaeth newydd yn nwylo'r gweithwyr yn cael ei sefydlu i redeg y busnes a'i gadw yng Nghymru.
Bydd Mr Huws yn aros gyda'r cwmni yn ystod y cyfnod trawsnewid ac mae wedi rhybuddio bod rhaid i ddiwydiant teledu Cymru esblygu.
Dywedodd bod rhaid i gynhyrchwyr ystyried "gyda chymaint o lwyfannau, cymaint o bethau'n cael eu ffrydio ym mhobman, sut i adeiladu diwydiant o amgylch hynny".
"Mae'n rhaid i ni gyd edrych ar ein modelau busnes a meddwl, 'Iawn, mae angen newid, mae rhaid i ni esblygu, mae'n rhaid i ni addasu neu mi gawn ni ein gadael ar ôl'," meddai.
Arferion gwylio
33% o oedolion Cymru yn tanysgrifio i wasanaeth ffrydio.
BBC iPlayer ydy'r gwasanaeth ar-alw mwyaf poblogaidd yng Nghymru, gyda 37% o oedolion yn ei ddefnyddio, wedyn Netflix (25%) ac yna ITV Hub (24%).
3 awr a 43 munud ydy'r amser gwylio cyfartalog dyddiol yng Nghymru (2017) - gostyngiad o 7% ers y flwyddyn flaenorol.
Dywedodd 55% o oedolion eu bod yn gwylio cynnwys ffrydio ac ar-alw yn 2017.
Mae cynulleidfaoedd iau yn fwy tebygol o wylio cynnwys arlein, gyda ffigyrau'n awgrymu bod 64% o bobl 16-24 oed a 68% o bobl 35-44 yn fwy tebygol o wylio'r math yma o ddeunydd o'i gymharu â'r cyfartaledd.
Mae Cwmni Da wedi bod yn gyfrifol am lawer o raglenni adloniant poblogaidd, ffeithiol a drama S4C. Mae hefyd wedi gwneud rhaglenni Saesneg i ddarlledwyr yn cynnwys y BBC.
Roedd y cwmni'n rhan o'r twf a ddatblygodd yn y sector teledu annibynnol yng Nghymru yn yr 80au a 90au yn sgil sefydlu S4C, a'r cynnydd yn y galw am raglenni teledu Cymraeg.
Fe sefydlodd Dylan Huws y cwmni yn 1996 gyda dau gyfarwyddwr arall.
Fe werthodd Ifor ap Glyn a Neville Hughes eu cyfranddaliadau yn y cwmni yn 2017 ac mae Mr Huws yn gwerthu ei gyfran ef i'r gweithwyr.
Fe ddwedodd y byddai model rheoli newydd yn "grymuso" cenhedlaeth iau o staff oedd yn agosach at yr arferion gwylio diweddaraf.
"Mae gwneud hyn yn grymuso'r genhedlaeth nesaf i gymryd cyfrifoldeb am eu dyfodol eu hunain, yn yr un ffordd ag y gwnaethom ni gymryd cyfrifoldeb am ein dyfodol ni 25 neu 30 mlynedd yn ôl."
"Dydy teledu ddim yn farw. Mae pobl yn dal eisiau deunydd teledu. Mae'r ffordd y mae'n cael ei gyhoeddi'n fater arall."
Er y bydd yn chwarae llai o ran yn y cwmni, dywedodd Mr Huws ei fod yn hyderus y gallai'r diwydiant teledu yng Nghymru addasu.
"Mae'n sector aeddfed a all sefyll ar ei draed ei hun, ond 'den ni'n dal yn benderfynol o ddweud ein straeon ein hunain wrth ein cynulleidfaoedd ein hunain.
"Mae hynny'n bwysig iawn i ni, fel cwmni sydd wedi ei leoli yng Nghymru."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Tachwedd 2018