Uwch Gynghrair Lloegr: Caerdydd 1-5 Manchester United
- Cyhoeddwyd

Victor Camarasa yn sgorio unig gôl Caerdydd yn erbyn Manchester United
Cafodd Caerdydd grasfa yn Stadiwm Caerdydd wrth i'w cyn-reolwr, Ole Gunnar Solskjaer ddychwelyd i'r ddinas fel rheolwr dros dro Manchester United.
Fe roddodd Marcus Rashford y gwrthwynebwyr ar y blaen wedi tri munud gyda cic rydd gampus, cyn i Ander Herrera ymestyn y fantais.
Daeth unig gôl yr Adar Gleision gyda chic gosb Victor Camarasa wedi 38 munud.
Ond yn fuan wedi hynny roedd Anthony Martial wedi gwneud hi'n 1-3 a dyna oedd y sgôr ar ddiwedd yr hanner cyntaf.
Jesse Lingard oedd sgoriwr ddwy gôl yr ail hanner - trwy gic gosb ddadleuol wedi 57 munud ar ôl iddo ef ei hun cael ei faglu yn y cwrt cosbi, a'r ail wedi 90 munud.
Roedd yn fuddugoliaeth gyfforddus i'r ymwelwyr yng ngêm gyntaf Solskjaer wrth y llyw wedi diswyddiad Jose Mourinho.
Mae'r canlyniad yn golygu bod tîm Neil Warnock yn 17eg safle'r tabl gyda 14 o bwyntiau.

Ole Gunnar Solskjaer a Neil Warnock