Uwch Gynghrair Lloegr: Crystal Palace 0-0 Caerdydd
- Cyhoeddwyd

Fe lwyddodd Sol Bamba ac amddiffyn Caerdydd i gadw Andros Townsend a Palace yn ddistaw
Fe lwyddodd Caerdydd i sicrhau pwynt oddi cartref yn erbyn Crystal Palace mewn gêm ddi-sgôr yn Selhurst Park.
Mae'r canlyniad yn cadw'r Adar Gleision yn yr 17eg safle - triphwynt uwchben safleoedd y cwymp.
Er i Palace reoli'r meddiant, roedden nhw'n wastraffus yn ymosodol.
Fe darodd yr asgellwr Andros Townsend y trawst - un ymhlith 31 o gynigion y tîm cartref am y gôl.