Uwch Gynghrair Lloegr: Caerlŷr 0-1 Caerdydd
- Cyhoeddwyd

Llwyddodd Neil Etheridge i amddiffyn y rhwyd saith gwaith
Roedd hi'n fuddugoliaeth funud olaf ddramatig i Gaerdydd oddi cartref yn erbyn Caerlŷr yn King Power Stadium.
Sgoriodd Víctor Camarasa unig gôl y gêm yn ystod amser ychwanegol yr ornest yn erbyn Caerlŷr.
Yn ogystal, llwyddodd gôl-geidwad Caerdydd, Neil Etheridge, i amddiffyn y rhwyd rhag cic o'r smotyn gan James Maddison.
Roedd hi'n driphwynt annisgwyl i'r Adar Gleision yn eu buddugoliaeth gyntaf oddi cartref y tymor hwn.