Dyn yn marw ar yr Wyddfa ar Noswyl Nadolig

  • Cyhoeddwyd
Bwlch Y SaethauFfynhonnell y llun, Nigel Brown/Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y dyn ei ddarganfod yn farw islaw Bwlch y Saethau

Bu farw dyn ar lethrau'r Wyddfa ar Noswyl Nadolig, wedi i gerrig syrthio ym Mwlch y Saethau.

Cafodd Tîm Achub Mynydd Llanberis wybod am y digwyddiad ar 24 Rhagfyr gan aelodau o'r cyhoedd a oedd yn pryderu bod rhywun wedi cael ei ddal wrth i gerrig syrthio.

Cadarnhaodd Heddlu'r Gogledd bod swyddogion yn ymchwilio i amgylchiadau'r farwolaeth ar ran y crwner.

Yn ôl Tîm Achub Mynydd Llanberis, bu'n waith "technegol a pheryglus" i geisio achub y dyn.

Anfonwyd hofrennydd Gwylwyr y Glannau i'r ardal, ond roedd y dyn eisoes wedi marw.