Warburton ymhlith rhedwyr dirgel 60fed Ras Nos Galan
- Cyhoeddwyd
Cyn gapten tîm rygbi Cymru Sam Warburton a'r athletwyr Rhys Jones a David Bedford yw'r rhedwyr dirgel wrth i'r ras Nos Galan flynyddol yn Aberpennar ddathlu ei phen-blwydd yn 60 oed.
Mae dros 1,700 o bobl wedi cofrestru i redeg yn y ras sy'n coffáu Guto Nyth Brân ers 1958.
Mae'r digwyddiad yn cynnwys ras i blant, rhedwyr proffesiynol a ras hwyl ac yn denu hyd at 10,000 o wylwyr.
Dywedodd cadeirydd y pwyllgor trefnu, Ann Crimmings mai dyma "yw'r parti stryd Nos Galan fwyaf yn Rhondda Cynon Taf", a bod "cael David, Sam a Rhys gyda ni ar y noson arbennig yma yn ffordd briodol o nodi'r pen-blwydd arbennig yma."
Dywedodd Warburton: "Mae'n fraint... mae gen i fwy o amser rhydd erbyn hyn i allu ymroi i gymryd rhan yn y digwyddiadau yma. Mae'n wych i fod yn rhan ohono.
Ychwanegodd Bedford bod y digwyddiad yn un "y dylai Cymru gyfan fod yn falch ohono".
Syniad athro ysgol, Bernard Baldwin, oedd cael y ras 5k ac yn y gorffennol mae rhedwyr dirgel y gorffennol yn cynnwys yr enillydd Olympaidd Linford Christie a chyn-reolwr tîm pêl-droed Cymru, Chris Coleman.
Ras amatur oedd hi adeg ei sefydlu chwe deg mlynedd yn ôl.
Bwriad Mr Baldwin wrth sefydlu'r ras oedd ei chychwyn mewn un blwyddyn a'i gorffen yn y flwyddyn nesaf a dyma'r rheswm dros ei chynnal ar Nos Galan.
Yn y blynyddoedd cynnar roedd y rhedwyr yn newid yng nghartref Mr Baldwin.
Yn y gorffennol, dyw trefniadau'r ras ddim wedi bod yn gwbl llyfn wrth i rai redwyr dwyllo ac am rai blynyddoedd bu'n rhaid i blismyn stopio'r ras oherwydd pryderon am draffig.
Mae nifer wedi cael y fraint i fod yn rhedwyr dirgel - yn eu plith Dai Greene, Lynn Davies a Lillian Board.
Yn fwy diweddar y chwaraewr rygbi Shane Williams a'r pencampwr bocsio Nathan Cleverley sydd wedi bod yn cario'r fflam i'r llinell gychwyn.
Yn ôl y sylwebydd chwaraeon Tim Hutchings, dyma un o "brif draddodiadau'r" calendr athletaidd.
Dywedodd merch Bernard Baldwin, Alison Williams: "Trefnodd fy nhad sawl ras - ond ras Nos Galan yn ei dre enedigol ddaeth â mwyaf o falchder iddo.
"Roedd e'n cynllunio'r ras gydol y flwyddyn ac wrth ei deipiadur bob nos ac roedd ein bil ffôn yn enfawr."
Ychwanegodd Ms Williams: "Doedd 'na ddim arian na noddwyr yn y dechrau - roedd rhaid i ni drefnu arwerthiannau dillad a gwerthu rhaglenni ar y noson.
"Byddai fy mam a'm mam-gu yn treulio'r diwrnod yn gwneud brechdanau a byddwn i yn treulio dydd Nadolig yn gludo sticeri ar focsys matsys ar gyfer y rhai a oedd yn cario'r fflam."
Mae'r ras yn dathlu bywyd y rhedwr enwog Guto Nyth Brân a fu farw 250 o flynyddoedd yn ôl.
Mae e wedi ei gladdu ym Mynwent Eglwys St Gwynno - 6 milltir i'r gogledd-orllewin o Bontypridd a bob blwyddyn mae torch yn cael ei adael ar ei fedd cyn cychwyn y ras yn Aberpennar.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Rhagfyr 2016
- Cyhoeddwyd31 Rhagfyr 2014