Datgelu Chris Coleman yn 'redwr dirgel' ras Nos Galan

  • Cyhoeddwyd
Chris Coleman wrth fedd y rhedwr Guto Nyth Bran
Disgrifiad o’r llun,

Chris Coleman wrth fedd y rhedwr Guto Nyth Bran

Mae Chris Coleman wedi ei ddatgelu fel y rhedwr dirgel ar gyfer ras enwog Nos Galan sydd yn cael ei ddydd Sadwrn yn Aberpennar.

Dywedodd rheolwr tim pel-droed Cymru, sydd wedi'i enwi ar restr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd eleni, fod y ras yn "draddodiad gwych" a'i fod yn "edrych ymlaen" at "noson wych".

Mae disgwyl i filoedd o bobl heidio i wylio'r ras flynyddol, ac mae 1,500 o bobl wedi cofrestru i redeg yn y ras eleni. Mae'r trefnwyr yn dweud y gall hyd at 10,000 o bobl wylio'r rhedwyr.

Caiff y ras ei chynnal i goffau'r rhedwr lleol enwog, Guto Nyth Bran, ac fe gafodd ei chynnal am y tro cyntaf yn 1958.

Mae'r ras yn cychwyn o fedd Guto Nyth Bran. Gallai Guto redeg mor gyflym fel ei fod yn dal adar yn ei ddwylo wrth iddyn nhw hedfan, yn ôl yr hanes.

Wedi iddo redeg ras o Gasnewydd i Fedwas, bu farw ym mreichiau ei gariad, Sian o'r Siop, yn 1737.

Mae Guto wedi cael ei gladdu ger Aberpennar, a chyn y ras fe wnaeth Coleman osod torch ger bedd y rhedwr.

Ond fe ddywedodd wrth BBC Cymru ei fod yn falch nad oedd yn rhaid iddo gwblhau'r ras gyfan, sydd yn 3.1 milltir (5km), gan ddweud: "Bydden i yno drwy'r nos!"

Pob blwyddyn, mae rhedwr dirgel yn rhedeg y ras - yn y gorffennol mae Alun Wyn Jones, Ian Evans, Shane Williams, Lynford Christie, Dai Greene, Christian Malcolm a llawer o enwogion eraill wedi cymryd rhan.

Disgrifiad o’r llun,

Cofeb Guto Nyth Bran