Y Bencampwriaeth: Reading 1-4 Abertawe
- Cyhoeddwyd
Dechreuodd Abertawe 2019 ar dân gyda buddugoliaeth gyfforddus o 4-1 yn erbyn Reading yn Stadiwm Madejski.
Fe gafodd yr Elyrch y dechreuad orau bosib wrth i Ollie McBurnie benio croesiad Kyle Naughton i gefn y rhwyd wedi dau funud o chwarae.
Roedd presenoldeb McBurnie yn creu pob math o broblemau i amddiffyn Reading, ac ar ôl hanner awr fe wyrodd beniad yr Albanwr i gyfeiriad Connor Roberts - a lwyddodd i rwydo'n hawdd o chwe llath.
Ychwanegodd Mike Van der Hoorn drydedd i Abertawe cyn hanner amser.
Parhau i reoli gwnaeth Abertawe yn fuan yn yr ail hanner, a chafodd McBurnie'r cyfle i'w gwneud hi'n 4-0 o'r smotyn ar ôl gwaith ardderchog gan Wayne Routledge.
Fe sgoriodd Callum Harriott gôl gysur i Reading gyda 10 munud yn weddill wrth iddo grymanu'r bêl yn gywir i gornel isaf y rhwyd .
Mae'r fuddugoliaeth yn codi'r Elyrch i'r 12 safle yn y tabl.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd26 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd22 Rhagfyr 2018