Deliwr yn cynnig ceir am 'filoedd o bunoedd yn rhatach'
- Cyhoeddwyd
Mae llys wedi clywed bod deliwr ceir sydd wedi'i gyhuddo o dwyll wedi cynnig cerbydau am filoedd o bunnau'n rhatach na delwyr eraill i'w gwsmeriaid.
Ddydd Mawrth bu rhai o gwsmeriaid Gwyn Roberts, sydd yn wynebu 24 cyhuddiad o dwyll ac un o fasnachu'n dwyllodrus, yn rhoi tystiolaeth yn yr achos.
Roedd Mr Roberts, 50, o Gyffordd Llandudno, yn rhedeg cwmni Menai Vehicle Solutions o swyddfa ym Mharc Menai ger Bangor.
Mae'n gwadu'r holl gyhuddiadau yn ei erbyn.
Gwerthu'r Audi
Dywedodd Dafydd Roberts, un o gwsmeriaid Gwyn Roberts, wrth Lys y Goron Caernarfon ei fod yn berson oedd yn "angerddol am geir", ac y byddai'n arbed arian i wario arnynt.
Prynodd gar Audi gan Gwyn Roberts yn 2013 am ei fod wedi cynnig pris oedd "rhwng £3,000 a £4,000 yn rhatach" na'r hyn yr oedd wedi'i weld mewn llefydd eraill.
Ym mis Mai 2015, dywedodd ei fod wedyn wedi gofyn i Gwyn Roberts ynglŷn â phrynu car Porsche, a bod y deliwr wedi dweud y gallai gael un am £15,000 a chyfnewid ei gar Audi.
Dywedodd Dafydd Roberts fod hynny eto "rai miloedd o bunnau yn rhatach" na'r pris yr oedd wedi'i gael gan eraill, ac fe gytunodd i'r pryniant.
Talodd y blaendal o £15,000 i Gwyn Roberts, oedd wedi addo iddo y byddai'n cael ei gar Porsche erbyn Rhagfyr 2015.
Ond wedi i'w Audi gael ei werthu, a dim arwydd bod Porsche wedi derbyn yr arian am ei gar, fe wnaeth Dafydd Roberts ymweld â swyddfa Gwyn Roberts gan ddweud ei fod yn "gwbl anhapus gyda'r sefyllfa".
Cafodd addewid gan Gwyn Roberts y byddai'n derbyn ei £15,000 yn ôl, ac yna addewid y byddai'n derbyn £30,000 mewn tri thaliad.
Ond ni dderbyniodd unrhyw arian, a ni dderbyniodd unrhyw gerbyd Porsche chwaith.
'Esgus ar ôl esgus'
Clywodd y llys gan dyst arall, Ian Lloyd, a ddywedodd ei fod wedi cytuno i brynu cerbyd gan Gwyn Roberts ddyddiau cyn i'w gwmni fynd i'r wal.
Roedd wedi mynegi diddordeb mewn prynu Range Rover Sport, ac fe gafodd wybod gan Mr Roberts y gallai ei gael am £43,500 yn ogystal â'r BMW oedd ganddo.
Ar ôl i weithiwr o Menai Vehicle Solutions gasglu ei BMW, cafodd wybod y byddai'n rhaid iddo dalu'r arian cyn derbyn ei gar.
Talodd yr arian dros gyfnod o dri diwrnod, ond yna cafodd wybod bod Menai Vehicle Solutions wedi dod i ben. Ni chafodd unrhyw arian yn ôl, na thaliad am ei BMW.
Dywedodd cwsmer arall, Richard Hughes, ei fod wedi cytuno i gyfnewid ei BMW X5 a £53,000 am Porsche Carrera Coupe.
Wedi i BMW Mr Hughes gael ei gasglu, clywodd y llys fod Gwyn Roberts yn "awyddus iawn" iddo dalu gweddill yr arian.
Gwrthododd Mr Hughes i ddechrau, gan ddweud ei fod yn "bryderus iawn" am drosglwyddo'r arian ar ôl iddo eisoes roi ei gar i'r cwmni.
Yn y diwedd cafodd dogfen ei llunio oedd yn defnyddio tad Gwyn Roberts fel gwarantydd i'r fargen, ond chafodd honno mo'i llofnodi.
Fe wnaeth Mr Hughes drosglwyddo'r arian ar y ddealltwriaeth y byddai'n derbyn ei gar newydd "yr wythnos honno", ond yn lle hynny fe wynebodd "esgus ar ôl esgus".
Mae'r achos yn parhau.