Mesur i weld a yw stryd fwyaf serth y byd yn Harlech
- Cyhoeddwyd
Gallai stryd yng Ngwynedd gael ei chydnabod fel y stryd breswyl fwyaf serth yn y byd cyn hir, wrth i fesuriadau swyddogol gael eu gwneud ddydd Mercher.
Baldwin Street yn Dunedin, Seland Newydd - sydd â graddiant o 35% ar ei fan mwyaf serth - yw deiliad y record ar hyn o bryd.
Ond mae trigolion Harlech yn credu bod Ffordd Pen Llech yn y dref â graddiant o 36%, fyddai'n ei gwneud yn fwy serth.
Mae swyddogion Recordiau Byd Guinness yn cymryd mesuriadau ar y stryd ddydd Mercher, ond does dim disgwyl cadarnhad yn y fan a'r lle.
Dywedodd Sarah Badhan, sy'n rhedeg grŵp cymunedol ar Facebook, bod y mwyafrif o drigolion yn byw ar waelod y stryd, tra bod fferyllfa a swyddfa bost ar yr ochr uchaf.
"Mae'n bendant yn eich cadw'n heini," meddai.
"Mae'n dipyn o her mynd i fyny - rydych chi wedi ymlâdd erbyn i chi gyrraedd y top."
Mae'r dystiolaeth yn cael ei chasglu gan y tirfesurydd Myrddyn Phillips.
Dywedodd mai'r broses yw "cymryd cyfres o fesuriadau ar y ffordd, yn canolbwyntio ar y rhan serthaf, er bod angen i ni fesur yr holl stryd.
"Bydd yn cymryd 'chydig o ddyddiau i brosesu'r wybodaeth gan fod angen cymryd y data am uchder y ffordd a chyfrifo union raddfa'r stryd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2019