Banc digidol Monzo i greu 300 o swyddi yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Cerdyn MonzoFfynhonnell y llun, Monzo
Disgrifiad o’r llun,

Monzo yw'r banc digidol sy'n datblygu gyflymaf yn y DU yn ôl Llywodraeth Cymru

Mae banc digidol Monzo wedi cyhoeddi y bydd y cwmni'n creu dros 300 o swyddi yng Nghaerdydd dros y pedair blynedd nesaf.

Bydd 312 o swyddi newydd yn cael eu creu yn y brifddinas wrth i'r cwmni agor canolfan gweithrediadau cwsmeriaid yno.

Fe wnaeth Monzo dderbyn £950,000 o gyllid gan Lywodraeth Cymru er mwyn ei annog i leoli'r swyddi yng Nghaerdydd.

Mae'r cwmni eisoes â phresenoldeb yng Nghaerdydd, ond dywedodd y bydd yn symud i swyddfeydd newydd yng nghanol y ddinas yn fuan.

1.3 miliwn o gwsmeriaid

Yn Llundain mae pencadlys y cwmni, ble mae'n cyflogi dros 500 o weithwyr.

Monzo yw'r banc digidol sy'n datblygu gyflymaf yn y DU yn ôl Llywodraeth Cymru, gyda 1.3 miliwn o gwsmeriaid a dros 100,000 o ddefnyddwyr newydd bob mis.

Dywedodd cyd-sylfaenydd a phrif weithredwr y banc, Tom Blomfeld, bod "poblogaeth o bobl addysgedig ac amodau economaidd deniadol" yng Nghaerdydd.

Ychwanegodd bod "safon y bobl rydyn ni'n eu denu ar hyn o bryd yn ardderchog" a'i fod yn "gyffrous iawn" am y datblygiad.

Ffynhonnell y llun, Monzo
Disgrifiad o’r llun,

Mae ap Monzo yn rhoi dadansoddiad i gwsmeriaid o'u harferion gwario

"Ar hyn o bryd rydyn ni'n cyflogi tua 50 o bobl sydd wedi eu penodi dros y misoedd diwethaf. Byddwn yn cynyddu hynny i dros 300.

"Mae'r rhan fwyaf o'r rheiny mewn gweithredoedd cwsmer, pobl sy'n ymateb i'r sgyrsiau testun a galwadau ffôn ond byddwn ni'n edrych i ehangu hynny gydag amser.

"Mae'r cyflog cychwynnol rhywbeth fel £18,000-£20,000, felly i swyddi tebyg mae'r tâl yn dda iawn."

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates: "Mae ein Cynllun Gweithredu Economaidd yn glir iawn ar ein hymrwymiad i sbarduno diwydiannau'r dyfodol a chefnogi busnesau i arloesi a chystadlu mewn marchnad sy'n datblygu'n gyflym.

"Mae model busnes arloesol Monzo, ei ymarferoldeb a'i dwf cyflym wedi golygu ei fod wedi datblygu'n gyflym yn un o fanciau digidol mwyaf y byd, ac fel Llywodraeth Cymru rydym yn falch o fod wedi eu cefnogi i ehangu yng Nghymru."