Uwch Gynghrair: Caerdydd 0-0 Huddersfield
- Cyhoeddwyd

Bu newid meddwl ynglŷn â chic gosb yn yr ail hanner
Gêm ddi-sgôr oedd hi yng Nghaerdydd rhwng dau dîm sydd yn brwydro am eu dyfodol yn yr Uwch Gynghrair - Huddersfield ar y gwaelod a Chaerdydd dri safle uwchben iddynt.
Huddersfield oedd yn ymddangos y mwyaf penderfynol i sgorio drwy gydol y gêm a nhw oedd yn cadw'r bêl.
Ond prin oedd yr ergydion a oedd yn targedu'r gôl a doedd hi ddim syndod ei bod hi'n ddi-sgôr ar yr hanner.
Roedd cynnwrf mawr cyn diwedd y gêm wrth i Lee Mason ddyfarnu cic o'r smotyn i Huddersfield am i Joe Bennett dynnu Florent Hadergjonaj i lawr yn y blwch cosbi.
Ond yna wedi protestiadau mawr gan chwaraewyr Caerdydd a gair gyda'r llymanwr tynnwyd y gic gosb yn ôl.
Parhaodd y gêm yn ddi-sgôr a'r ddau dîm felly yn cael un pwynt yr un.
Mae gêm gyfartal yn golled fawr i Huddersfield ond nid felly i Gaerdydd ond byddai tri phwynt wedi bod yn werthfawr iawn i'r Adar Gleision.
Rhaid iddynt ennill yn erbyn y timau gwanaf wrth chwarae adref os am ddiogelu eu lle yn y brif adran.