Perfformio fersiwn opera Gymraeg am y tro cyntaf tu allan i Gymru

  • Cyhoeddwyd
Dulais RhysFfynhonnell y llun, DULAIS RHYS
Disgrifiad o’r llun,

Dulais Rhys sy'n gyfrifol am drefnu rhan y gerddorfa

Am y tro cyntaf mewn hanes fe fydd fersiwn siambr o Opera Gymreig yn cael ei pherfformio y tu allan i Gymru ym mis Mai eleni.

Fe fydd yr opera Blodwen gan Joseph Parry, gafodd ei chyfansoddi yn 1877, yn cael ei pherfformio yn Billings, Montana yn yr Unol Daleithiau.

Er i ddetholiad o'r opera gael ei pherfformio yn America dros ganrif yn ôl, dyma'r tro cyntaf i'r fersiwn siambr yma gael ei pherfformio y thu allan i Gymru.

Cymro sydd bellach yn byw ym Montana ers 2018, Dulais Rhys, sy'n gyfrifol am drefnu rhan y gerddorfa.

'Symud i fyw'

Dywedodd Dr Rhys: "Ers i mi symud i America dwi wedi bod mewn cysylltiad gyda sawl cwmni opera yn gofyn a oes diddordeb ganddyn nhw mewn llwyfannu opera Gymraeg.

"Cafon ni sawl ymateb cadarnhaol yn America, ond daeth cwmni Rimrock Opera Foundation o Montana yn ôl i ddweud eu bod nhw am wneud Blodwen.

"Y cam nesaf i mi wedyn oedd symud i fyw o San Fransisco lle oni'n byw ers 2011, i Montana."

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Bydd pedwar perfformiad o Blodwen yn Nghanolfan NOVA, Montana ym mis Mai

Mae chwe phrif ran yn yr opera ac mae dau o'r prif gantorion yn gallu siarad Cymraeg.

Jeremy Huw Williams o Gaerdydd fydd yn chwarae rhan Arthur a bydd Nerys Jones, sydd bellach yn byw yn Seattle, yn chwarae rhan Arglwyddes Maelor.

Bydd y perfformiadau yma yn cyd-fynd â pherfformwyr gwirfoddol yn y corws sydd wedi dysgu'r caneuon Cymraeg.

Mae Blodwen yn dilyn patrwm opera ramantus Eidalaidd. Mae'r stori wedi'i selio yng Nghymru yn ystod y 14eg ganrif ac yn cynnwys priodas, cariadon, arwyr yn marw a thro cynffon ar y diwedd.

'Lot o hwyl'

Ychwanegodd Dr Rhys: "Mae hi wedi bod yn lot o hwyl yn yr ymarferion ceisio dysgu'r Gymraeg i'r corws.

"Bydd 'na uwchdeitlau yn ymddangos yn ystod y perfformiad i gynorthwyo'r gynulleidfa gyda'r geiriau.

"Dwi'n falch iawn fod llywydd y cwmni, Lucinda Butler wedi dewis cynhyrchu'r opera yma.

"Mae ganddi hi gysylltiadau gyda Chymru ar ôl i'w merch astudio ym Mhrifysgol Abertawe."

Bydd pedwar perfformiad o Blodwen yng Nghanolfan NOVA, Montana rhwng 10 a 19 Mai eleni, ac mae'n bosib y bydd un perfformiad ychwanegol os fydd galw yn ôl y trefnwyr.

Ffynhonnell y llun, DULAIS RHYS
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r perfformwyr yn ymarfer canu yn y Gymraeg cyn y perfformiad ym mis Mai