Cau rhan o'r A55 rhwng cyffordd 3 a 4 dros nos yn Ynys Môn
- Cyhoeddwyd
Bydd yr A55 yn Ynys Môn ynghau dros nos y penwythnos hwn wrth i waith cynnal a chadw gael ei wneud ar geblau pŵer.
Fe fydd y ffordd ar gau am chwe awr rhwng 21:00 a 03:00 nos Sadwrn a nos Sul.
Mae'r gwaith yn rhan o gynllun gwerth £13m i ddiogelu rhwydweithiau trydanol Ynys Môn.
Bydd y gwaith yn golygu cau'r ffordd rhwng cyffyrdd tri a phedwar.
Fe fydd traffig yn cael ei ddargyfeirio ar hen lôn yr A5 drwy Gaergeiliog.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Medi 2018