Cyhuddo Theresa May o beidio brwydro dros Wylfa Newydd
- Cyhoeddwyd
![Albert Owen](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/0D1B/production/_105155330_8bafcfe0-fd16-4e38-bb06-e98d399994ad.jpg)
Dywedodd Albert Owen fod angen i Lywodraeth y DU wneud mwy
Mae Theresa May wedi cael ei chyhuddo o ganolbwyntio ar Brexit yn hytrach na cheisio ymladd i sicrhau fod gorsaf niwclear newydd yn cael ei chodi ar Ynys Môn.
Ddydd Gwener daeth adroddiadau fod bwrdd rheoli Hitachi yn debygol o benderfynu atal y gwaith sy'n mynd rhagddo ar safle Wylfa Newydd yr wythnos nesaf.
Fe wnaeth gwleidyddion ac undebau feirniadu Mrs May am beidio â thrafod y mater gyda phrif weinidog Japan pan gyfarfu'r ddau.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU fod trafodaethau gyda Hitachi yn parhau.
Mae yna ddyfalu cynyddol wedi bod y byddai'r cwmni o Japan yn cefnu ar brosiect Horizon - cynllun gwerth £20bn.
Yn ôl adroddiadau, mae'r cwmni'n poeni oherwydd y posibilrwydd y bydd costau adeiladu yn cynyddu.
Dywedodd AS Llafur Ynys Môn, Albert Owen ei fod am wybod gan weinidogion "beth sy'n mynd o'i le yma, a pham fod y cwestiynau a'r pryderon yma yn cael eu clywed am ddyfodol y safle."
Ychwanegodd: "Mae'r llywodraeth wedi bod yn canolbwyntio gormod ar Brexit."
![Shinzo Abe a Theresa May](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/14631/production/_105150538_abe_may_bbc.jpg)
Ni chafodd atomfa Wylfa Newydd ei thrafod yn y cyfarfod rhwng Shinzo Abea a Theresa May ddydd Iau
Dywedodd undeb Unite eu bod wedi eu syfrdanu na chafodd y sefyllfa ei thrafod gan Theresa May a phrif weinidog Japan Shinzo Abe, pan fu'r ddau yn cyfarfod ddydd Iau.
"Roedd hyn yn esgeulustod gan Theresa May o ran ei chyfrifoldebau," meddai Peter McIntosh, swyddog ynni undeb Unite.
Dywedodd fod angen i Lywodraeth y DU weithredu er mwyn sicrhau fod y prosiect yn symud ymlaen, gan ychwanegu pe na bai'r atomfa yn cael ei hadeiladu y byddai'n cael "effaith dychrynllyd ar economi Cymru ac ar allu'r DU i gwrdd â'i gofynion yn wyneb newid hinsawdd".
Yn ôl Justin Bowden, ysgrifennydd cyffredinol undeb y GMB, roedd angen i Lywodraeth y DU gynnig arian ar gyfer y prosiect er "mwyn sicrhau ein bod yn cwrdd ag anghenion ynni'r DU".
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud fod yr adroddiad yn Nikkei Asian Review yn achos pryder.
![Wylfa Newydd](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/B164/production/_104721454_df6690f5-5cb5-4a3e-879a-f39b4e7acefb.jpg)
Byddai prosiect Wylfa Newydd yn creu miloedd o swyddi wrth adeiladu'r atomfa
Ddydd Gwener, dywedodd Hitachi bod atal y gwaith yn opsiwn.
"Nid oes unrhyw benderfyniad ffurfiol wedi ei wneud ar hyn o bryd, er bod Hitachi wedi asesu Prosiect Horizon yn cynnwys y posibilrwydd o'i atal a'r effeithiau ariannol cysylltiedig," meddai llefarydd.
Y bwriad oedd gallu cynhyrchu trydan erbyn canol y 2020au, a bod yn weithredol am 60 o flynyddoedd.
Ond dywedodd llefarydd ar ran Adran Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU: "Mae trafodaethau'n parhau gyda Hitachi ar ddod i gytundeb sy'n darparu gwerth am arian i gwsmeriaid a threthdalwyr o brosiect Wylfa.
"Maen nhw'n rhai sy'n fasnachol sensitif a dydyn ni ddim yn gwneud sylw ar sïon."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd10 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd17 Mai 2018