Y cyhoedd yn 'anwybyddu'r defnydd a delio cyffuriau'

  • Cyhoeddwyd
DelioFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae pobl yn anwybyddu'r defnydd a delio cyffuriau ar y strydoedd am ei fod yn cael ei "normaleiddio", yn ôl uwch-swyddog heddlu.

Mae cymunedau wedi cael eu hannog i helpu i fynd i'r afael â'r broblem gynyddol trwy adrodd unrhyw ddigwyddiadau.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Stuart Johnson, sy'n gweithio yn ardaloedd Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot gyda Heddlu De Cymru, y byddai hyn yn help wrth fynd i'r afael â throseddau llinellau cyffuriau.

Mae'r ddwy sir ymysg y 10 uchaf yng Nghymru a Lloegr o ran nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig â heroin.

Beth yw Llinellau Cyffuriau?

  • Llinellau Cyffuriau, neu County Lines, yw'r enw am y rhwydweithiau masnachu cyffuriau sy'n cysylltu ardaloedd trefol a gwledig gan ddefnyddio llinellau ffôn pwrpasol;

  • Yn aml mae pobl ifanc yn cael eu gyrru i ardaloedd y tu allan i'r dinasoedd mawr i werthu cyffuriau;

  • Wedi iddyn nhw sefydlu eu hunain mewn ardal, maen nhw'n gwerthu cyffuriau gan ddefnyddio rhifau ffôn arbennig;

  • Yn ôl yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, mae tua 2,000 o linellau o'r fath yn weithredol ar draws y DU;

  • Mae'r corff yn amcangyfrif bod tua hanner o'r rheiny mewn trefi arfordirol bychain.

Ffynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd 12 o bobl eu carcharu y llynedd yn dilyn degau o gyrchoedd cyffuriau gan Heddlu De Cymru

"Mae llinellau cyffuriau yn fusnes, ac yn anffodus mae gan Abertawe, Castell-nedd a Phort Talbot lawer o ddefnyddwyr cyffuriau," meddai Mr Johnson.

"Os oes 'na alw am gyffuriau yma, fel unrhyw fusnes, bydd delwyr yn dod yma a cheisio gwerthu eu cynnyrch.

"Mae gweld defnyddiwr cyffuriau neu gyffuriau'n cael eu delio ar y stryd yn cael ei normaleiddio, ac mae angen i ni newid yr agwedd yma yn ein cymunedau.

"Rwy'n gwybod bod cymunedau'n rhwystredig. Ry'n ni'n gwneud ein gorau i gysylltu â phobl yn eu cymunedau a thrwy ein partneriaid.

"Ond dyma ble mae agwedd cymunedau'n hollbwysig. Dydyn nhw ddim yn gallu ei anwybyddu rhagor - cysylltwch â ni.

"Heb i'r gymuned ddod at ei gilydd ry'n ni'n colli'r frwydr."

'Defnyddwyr yn ddioddefwyr'

Ym mis Chwefror y llynedd cafodd 12 person eu dedfrydu i hyd at naw mlynedd o garchar am gynllwynio i werthu heroin a chocên yn Abertawe.

Daeth hynny yn dilyn cyrchoedd ar 80 adeilad ar draws de Cymru, oedd angen 600 o heddweision i'w gweithredu.

Dywedodd Mr Johnson mai'r flaenoriaeth yw dod o hyd i'r delwyr, a bod y llu wedi newid y ffordd y maen nhw'n delio â defnyddwyr cyffuriau.

"Dioddefwyr ydyn nhw mewn gwirionedd, ac rydyn ni'n eu trin nhw fel dioddefwyr yn gyntaf," meddai.

"Mae pob achos yn wahanol ond helpu pobl yw'r flaenoriaeth. Mae targedu'r delwyr yn bwysicach na thargedu defnyddwyr."