Cyngor yn adfer rhai gwasanaethau bws gwledig yn Sir Gâr

  • Cyhoeddwyd
Bws
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r bysiau yn cysylltu nifer o gymunedau a thref Caerfyrddin

Mae gwasanaethau bws i rai pentrefi gwledig yn y gorllewin wedi cael eu hachub gan gytundeb funud olaf.

Ond fe fydd rhai ardaloedd yn Sir Gar yn gweld y gwasanaeth bws presennol yn cael ei gwtogi i un bws bob wythnos.

Roedd cwmni bysiau Morris Travel wedi cyhoeddi eu bod am roi'r gorau i gynnal nifer o wasanaethau gwledig o 19 Ionawr.

Nawr mae'r cyngor sir wedi ail-lunio nifer o gytundebau - a chyflwyno cytundebau newydd fydd yn para 12 mis.

Roedd penderfyniad gwreiddiol y cwmni yn peryglu gwasanaethau yn nyffrynnoedd Tywi a Chothi - gan effeithio ar gymunedau Llanarthne, Crug-y-bar, Carmel, Llandeilo a Llanymddyfri.

Ar ôl y penderfyniad dywedodd y cynghorydd Cefin Campbell, aelod o Fwrdd Cyngor Caerfyrddin gyda chyfrifoldeb am faterion gwledig, fod yna broblem yn wynebu ardaloedd gwledig yn gyffredinol "oherwydd dyw'r gwasanaethau hyn ddim yn rhai llewyrchus i gwmnïau bws".

Disgrifiad o’r llun,

Roedd gwasanethau i ardaloedd fel Dyffryn Tywi dan fygythiad

Erbyn hyn mae'r cyngor wedi llwyddo i adfer rhai o'r gwasanaethau yn rhannol.

Dywedodd Hywel Jones, un sy'n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn gyson, fod y newyddion i'w groesawu.

"Fel arall byddai'n ein gadael heb yr un bws o gwbl," meddai.

Mae Mr Jones yn byw yng Nghwm-du fydd yn parhau â gwasanaeth bws am bedwar diwrnod yr wythnos.

Dywedodd Mr Jones y byddai'r cytundeb newydd yn caniatáu i Morris Travel gynnal y rhan fwyaf o'r gwasanaethau drwy ddefnyddio un bws ac un gyrrwr.

Ond fe fydd y gwasanaethau 278 a 279, yn ardal Llandeilo, ynghyd â'r gwasanaeth 27 ar ddydd Sadwrn yn dod i ben.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Hywel Jones yn defnyddio'r gwasaneth yn gyson

Fe fydd rhai o'r hen wasanaethau nawr yn dod o dan wasanaeth Bwcabus, sy'n darparu gwasanaeth wedi ei archebu o flaen llaw.

Dywedodd y cynghorydd Hazel Evans, aelod o Bwrdd gyda chyfrifoldeb am yr amgylchedd; "Tra yn anffodus y bydd yna wasanaeth mwy cyfyngedig mewn rhai ardaloedd, rydym wedi gweithio yn galed i ad-drefnu gwasanaethau fel nad oes yr un gymuned heb wasanaeth o gwbl."

Fe fydd y cytundeb newydd yn para am 12 mis.

"Rydym yn annog trigolion y cymunedau hyn i barhau i ddefnyddio'r gwasanaethau hyn er mwyn sicrhau eu parhad," meddai Ms Evans.

Mae'r newidiadau yn dod i rym ar ddydd Llun, 21 Ionawr.