Cyn-arweinydd y Ceidwadwyr i sefyll fel cynghorydd sir

  • Cyhoeddwyd
Andrew RT Davies

Mae cyn-arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad wedi cyhoeddi ei fod yn bwriadu sefyll fel cynghorydd er mwyn ceisio achub ysgol wledig.

Mae ymgyrchwyr wedi honni y byddai cynlluniau Cyngor Sir Bro Morgannwg i symud disgyblion Ysgol Gynradd Llancarfan i safle newydd yn golygu diwedd ar yr ysgol i bob pwrpas.

Mae Andrew RT Davies, fu'n arwain y Torïaid ym Mae Caerdydd am saith mlynedd, yn "chwyrn yn erbyn" y cynllun.

Ond dywedodd Llafur na allai Mr Davies chwarae rhan "gonest" yn y sefyllfa gan mai ei blaid ei hun oedd yn rhedeg y cyngor.

Dywedodd Mr Davies na fyddai'n rhoi'r gorau i'w sedd fe AC Canol De Cymru petai'n ennill yr isetholiad yn Y Rhws ar 14 Chwefror - ond ni fyddai'n cymryd dau gyflog.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cyngor wedi dweud nad yw adeilad presennol Ysgol Llancarfan yn addas i'w bwrpas

"Rydw i wedi bod yn gwrthwynebu'r cynigion o'r diwrnod cyntaf, dan y cyngor Llafur [blaenorol] a'r cyngor Ceidwadol - ac yn amlwg mae llawer mwy na dim ond ysgol Llancarfan.

"Dwi'n credu mai ysgolion gwledig yw calon bywyd cefn gwlad.

"Dwi wir yn credu bod brwydr i'w chael fan hyn o gwmpas ysgol Llancarfan a gallu'r Rhws i elwa o fuddsoddiad pellach."

Fe wnaeth y cyn-gynghorydd Ceidwadol, Matthew Lloyd ymddiswyddo ym mis Rhagfyr mewn protest yn erbyn cynlluniau'r cyngor i symud disgyblion Llancarfan i safle newydd £4m yn Y Rhws.

Mae enwebiadau ar gyfer yr isetholiad yn cau ddydd Gwener.