Caerdydd yn arwyddo'r ymosodwr Oumar Niasse o Everton
- Cyhoeddwyd

Mae Clwb Pêl-droed Caerdydd wedi arwyddo Oumar Niasse ar fenthyg o Everton tan ddiwedd y tymor.
Fe ymunodd yr ymosodwr 28 oed ag Everton am £13.5m yn 2016, ac ers hynny wedi llwyddo i sgorio naw gol i'r Toffees.
Dim ond saith ymddangosiad mae Niasse wedi ei wneud y tymor hwn, ond mae rheolwr Caerdydd Neil Warnock yn "hyderus y bydd yn llwyddiant yng Nghaerdydd".
Mae gan Gaerdydd yr opsiwn i brynu'r ymosodwr ar ddiwedd y tymor am ffi o £7m.
Mi fydd Niasse ar gael i chwarae yn y gêm hollbwysig yn erbyn Newcastle ddydd Sadwrn.
Mae'n debyg fod Caerdydd hefyd yn agos i arwyddo'r ymosodwr o'r Ariannin, Emiliano Sala, sydd wedi sgorio 13 gol i Nantes yn Ligue 1 Ffrainc eleni.