Tîm pêl-droed Cymru i wynebu Belarws mewn gêm gyfeillgar

  • Cyhoeddwyd
GiggsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae rheolwr Cymru, Ryan Giggs, wedi wynebu tîm Belarws fel chwaraewr yn y gorffennol

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cyhoeddi bod tîm dynion Cymru yn wynebu Belarws mewn gêm gyfeillgar ar 10 Medi.

Hon fydd ail gêm gartref Cymru ym mis Medi, gan eu bod hefyd yn wynebu Azerbaijan mewn gêm ragbrofol ar gyfer Euro 2020 ar 6 Medi.

Mae'r gêm yn digwydd yn ystod cyfnod tyngedfennol yn y calendr rhyngwladol, sef hanner ffordd drwy ymgyrch ragbrofol Cymru yn Euro 2020.

Dyma'r bedwaredd tro i garfan dynion cenedlaethol Cymru chwarae yn erbyn Belarws - gyda Ryan Giggs, y rheolwr presennol, yn sgorio yn eu herbyn yn y gorffennol.

Bydd lleoliad y gêm a manylion am sut i gael tocynnau yn cael ei gyhoeddi yn fuan.