Trafod cynlluniau i ddymchwel uned Tawel Fan
- Cyhoeddwyd
Mae'n bosib y bydd ward Tawel Fan yn Ysbyty Glan Clwyd, ward oedd yng nghanol ymchwiliad i gam-drin honedig, yn cael ei dymchwel.
Fe gafodd y ward ym Modelwyddan, Sir Ddinbych, ei chau yn 2013 yn sgil honiadau o gam-drin cleifion, a bu dau ymchwiliad i'r sefyllfa.
Erbyn hyn mae'n bosib y bydd y safle yn cael ei ddymchwel fel rhan o gynllun £25m i ailwampio gwasanaethau iechyd meddwl yn y gogledd.
Bwriad Ysbyty Glan Clwyd yw ailddatblygu Uned Ablett er mwyn creu wardiau "sy'n addas i bwrpas a diogel".
Dywed adroddiad gan Ian Howard, dirprwy gyfarwyddwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, fod yr ymchwiliadau i ward Tawel Fan wedi creu delwedd "hynod o negyddol".
Ychwanegodd: "Byddai ad-drefniad o'r uned yn rhoi cyfle real i ailadeiladu hyder ac enw da gwasanaethau seiciatryddol ar y safle.
Clywodd un o'r ddau ymchwiliad i Tawel Fan gan deuluoedd fod cleifion yn cael eu cadw fel anifeiliaid mewn sŵ.
Ond dywedodd adroddiad arall nad oedd unrhyw dystiolaeth o gam-drin sefydliadol..
Bydd ymchwiliad arall - y trydydd un - i wasanaethau iechyd meddwl y gogledd yn dechrau yn y gwanwyn.
Bydd cynllun strategol amlinellol yn cael ei drafod gan aelodau o'r bwrdd iechyd ddydd Iau.
Pe bai nhw'n cymeradwyo, mae disgwyl y bydd Llywodraeth Cymru yn ariannu'r prosiect.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Mai 2018
- Cyhoeddwyd3 Mai 2018
- Cyhoeddwyd8 Mai 2018
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2018