Gŵyl Nôl a Mla'n Llangrannog i gymryd 'saib' am flwyddyn
- Cyhoeddwyd

Los Blancos yn perfformio yn Ngŵyl Nôl a Mla'n 2018
Mae trefnwyr gŵyl gerddoriaeth Nôl a Mla'n yn Llangrannog yn dweud na fydd y digwyddiad yn cael ei chynnal eleni.
Dywedodd yr ŵyl ar wefannau cymdeithasol eu bod wedi "penderfynu cael saib" a bod "croeso i chi ddod i Langrannog a joio unrhywbryd".
Roedd y digwyddiad yn cael ei gynnal am y 10fed tro y llynedd.
Mae'r ŵyl ger y traeth yn Llangrannog fel arfer yn cael ei chynnal ar benwythnos ar ddechrau mis Gorffennaf.
Dywedodd y trefnwyr: "Ni'n ddiolchgar tu hwnt am y gefnogaeth ym mhob ffordd dros y 10 mlynedd diwetha' ac am y cyfle i lwyfannu a chlywed rhai o fandiau mwya' ffantastig Cymru yn ein pentre' bach."
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Gorffennaf 2018