Defnyddio technoleg i geisio denu mwy o fywyd gwyllt
- Cyhoeddwyd
Mae prosiect i adfer afon yn Sir Conwy yn wynebu'r her o symud 2,500 tunnell o raean o un ochr afon i'r llall heb ddefnydd lôn a heb amharu ar wyau pysgod.
Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, sy'n gweithio mewn partneriaeth gyda Chyfoeth Naturiol Cymru, yn gwneud newidiadau i'r tirwedd o amgylch Afon Machno ar fferm Carrog yng Nghwm Penmachno.
Amcan y gwaith yw denu mwy o fywyd gwyllt i'r ardal a lleihau'r risg o lifogydd drwy arafu llif y dŵr ac adfer y gorlifdir naturiol bob ochr i'r afon.
Rhan allweddol o hynny oedd cael gwared â'r marian serth o raean ar un glan. Fe benderfynwyd, yn y diwedd, mai defnyddio cludfelt i gario tunelli o ddeunydd dros yr afon fyddai'r syniad gorau.
'Dipyn o brosiect'
Dyma'r tro cyntaf i'r ymddiriedolaeth ddefnyddio'r dechneg hon, meddai Dewi Roberts, a reolodd y gwaith: "Mae hi wedi bod yn dipyn o brosiect, a 'dan ni'n meddwl ei fod yn un o'r cynta' o'i fath,"
"Amser yma'r flwyddyn mae pysgod yn magu, felly doedden ni ddim yn cael gweithio yn yr afon ei hun - dyna'r rheswm dros ddefnyddio cludfelt 40 troedfedd i symud y graean o un ochr yr afon i'r llall.
"Rydyn ni'n meddwl bod 2,500 tunnell o ddeunydd wrth ochr yr afon, ac fe lwyddon ni ei symud o i gyd mewn pedwar diwrnod."
Un o amcanion hirdymor y prosiect ar fferm Carrog, sy'n eiddo i'r ymddiriedolaeth, yw adfer y safle a'i wneud yn le delfrydol i frithyll fagu.
Oherwydd hynny, bydd clogfeini yn cael eu rhoi yn yr afon yn ystod y gwanwyn i greu'r amrywiaeth strwythurol sydd ei angen ar y brithyll.
Gallai hynny yn ei dro ddenu adar a chreaduriaid fel dyfrgwn i'r cwm.
'Cynnig rhywbeth gwell'
Mae gobaith hefyd bydd arafu llif yr afon yn cyfrannu at yr ymdrechion i leihau risg llifogydd yn nhrefi Dyffryn Conwy - sydd wedi cael eu taro gan lifogydd cyson dros y blynyddoedd.
Mae Afon Machno yn llifo mewn i Afon Conwy ychydig i'r de o Fetws y Coed.
"Mae wedi bod yn dipyn o waith dros yr wythnosau diwethaf,'" yn ôl Dewi Davies, rheolwr prosiect dalgylch Uwch Conwy gyda'r ymddiriedolaeth.
"Nid y gwaith ar yr afon yw'r unig stori yma yng Ngharrog. Bydd y fferm ei hun, sy'n cael ei ffarmio law yn llaw â natur, yn cael ei gosod yn ystod yr haf. Felly bydd rhywun yma fydd yn ein helpu i gynnig rhywbeth gwell i fyd natur."
Mae'r prosiect hefyd yn cynnwys adeiladu llwybr cyfochr a'r afon fel bod pobl leol - ynghyd ag anifeiliaid - yn medru manteisio ar y prosiect.