Eira'n achosi trafferth ar ffyrdd ar draws Cymru
- Cyhoeddwyd

Eira ar yr A470 ger Bwlch y Gorddinan
Mae tywydd garw wedi achosi trafferthion i deithwyr yn rhannau o Gymru wedi i rybudd melyn am rew ac eira ddod i rym.
Bu'n rhaid cau nifer o ffyrdd yn y gogledd ac mae amodau wedi bod yn heriol i yrwyr mewn sawl rhan o'r wlad.
Aeth ceir a lorri yn sownd yn yr eira ar yr A487 yn ardal Dinas Mawddwy, ac roedd cyngor i osgoi Bwlch y Crimea ym Mlaenau Ffestiniog.
Daeth rhybudd y Swyddfa Dywydd i rym am 12:00 ddydd Mawrth ac mae'n para nes 11:00 fore Mercher.
Bu'n rhaid cau Bwlch Sychnant yng Nghonwy, Bwlch yr Oerddrws ger Dolgellau a'r A487 rhwng Machynlleth a thafarn y Cross Foxes.
Er iddyn nhw barhau ar agor, mae amodau gyrru wedi bod yn anodd ar ffordd fynydd y Bwlch a Rhigos yn Rhondda Cynon Taf, a bu'r A44 rhwng Aberystwyth a Llangurig ar gau am gyfnod hefyd.
Bu'n rhaid cau tair ysgol yng Ngwynedd ddechrau'r prynhawn - Ysgol Pennal, Ysgol Corris ac Ysgol Bro Hedd Wyn yn Nhrawsfynydd - yn ogystal ag Ysgol Gynradd Licswm ac Ysgol Rhos Helyg yn Sir Y Fflint ac Ysgol Bro Iâl yn Sir Ddinbych.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Dywedodd y Swyddfa Dywydd y byddai band o law yn lledu tua'r dwyrain ar draws Cymru brynhawn Mawrth ac yn gynnar gyda'r nos, gan droi'n eira ar y bryniau yn y lle cyntaf ac ym mannau is maes o law.
Ychwanegodd llefarydd bod 3-5cm o eira yn debygol ar dir dros 200m o uchder, ond fe allai bod gymaint â 10cm mewn rhai llefydd.

Eira ar ffordd rhwng Llanuwchllyn a Dolgellau ddydd Mawrth
Rhagor o dywydd garw
Mae disgwyl mwy o drafferthion cyn diwedd yr wythnos wrth i'r Swyddfa Dywydd gyhoeddi rhybudd melyn am ragor o eira a rhew rhwng 15:00 ddydd Iau a 12:00 ddydd Gwener.
Fe allai rhwng 2-5cm o eira ddisgyn mewn rhai mannau, gyda'r posibilrwydd o 10cm i rai.
Maen nhw'n cynghori gyrwyr i gymryd gofal a chaniatáu mwy o amser ar gyfer unrhyw deithiau yn hwyr nos Iau ac yn gynnar fore Gwener wrth i'r tymheredd ddisgyn o dan y rhewbwynt.
Daw'r rhybuddion diweddaraf dridiau ar ôl i tua 1,000 o gartrefi yn ne Cymru golli eu cyflenwad trydan yn dilyn gwyntoedd cryfion.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Ionawr 2019