Datgelu cynlluniau ar gyfer adeilad hanesyddol yn Rhuthun
- Cyhoeddwyd
Mae cynlluniau i droi adeilad hanesyddol yn Sir Ddinbych yn ofod cymunedol amlbwrpas wedi eu datgelu.
Ers cau banc NatWest yn 2017, mae'r Hen Lys ar Sgwâr San Pedr yn Rhuthun wedi bod yn wag.
Ond ar ddechrau mis Ionawr, fe gadarnhaodd cyngor y dref eu bod nhw wedi prynu'r adeilad, a bod cynlluniau i'w drawsnewid wedi cael eu cyflwyno.
Y gobaith yw cynnal cyfarfodydd a digwyddiadau yno, yn ogystal â hyrwyddo cynnyrch siopau lleol a dod yn gartref i arddangosfeydd hanesyddol a chelfyddydol.
'Hyblygrwydd'
Yn ôl Gavin Harris, dirprwy faer y dref, bydd y datblygiad yn "unigryw" oherwydd y gymysgedd o atyniadau a'r hyblygrwydd bydd yn ei gynnig.
"Rydan ni'n trio apelio at bobl efo'r ochr hanesyddol, yr ochr gelfyddydol, a'r petha' eraill fydd yn digwydd, er mwyn ymateb a chlymu atyniadau eraill y dref at ei gilydd," meddai.
"Llefydd hanesyddol fel Castell Rhuthun, yr Hen Garchar, Nantclwyd y Dre, a'r celfyddyd sy' 'na efo'r Ganolfan Grefftau."
Ychwanegodd bod pobl leol yn ymateb yn gadarnhaol i'r syniad "unwaith mae pobl yn deall be' 'dan ni'n trio'i wneud yma, a pha mor hyblyg fydd yr adeilad."
Mae'r hanesydd Gareth Evans, awdur llyfrau ar orffennol Rhuthun, yn gweld hanes yn ailadrodd ei hun wrth i'r Hen Lys ddychwelyd i ddwylo cyhoeddus.
"Yn ôl rhai, dyma'r adeilad cyhoeddus hynaf yng Nghymru. Mae'r prif ran yn dod o'r 1420au, syth wedi cyfnod Owain Glyndŵr.
"Roedd un o'r llysoedd oedd yn cyfarfod yma yn gyfrifol am fwrdeistref Rhuthun. Felly mae awgrym pobl leol i'w wneud yn bencadlys i Gyngor y Dref yn mynd â ni mewn cylch."
Caniatad cynllunio
Yn y cyfamser, mae Cyngor Sir Ddinbych wedi cadarnhau y bydd llyfrgell Rhuthun yn "aros yn ei safle presennol am y dyfodol rhagweladwy".
Cafodd cynlluniau i symud y llyfrgell o'i adeilad yntau - sy'n dod o'r 18fed ganrif - eu rhoi i un ochr yn 2018, yn sgil pryderon am gael safle hanesyddol gwag arall yn Rhuthun.
Mae'r cyngor hefyd yn gyfrifol am swyddfeydd gwag drws nesaf i Garchar Rhuthun - atyniad twristiaeth sydd hefyd yn gartref i archifdy'r sir.
Dywed llefarydd y cyngor eu bod yng nghanol cynnal astudiaeth i asesu sut y gellid defnyddio rhannau gwag yr adeilad yn y dyfodol.
Mae dal angen caniatâd cynllunio ar gynlluniau'r Cyngor Tref ar gyfer yr Hen Lys, ac maen nhw'n ceisio am arian grant, ynghyd â chyfraniadau gan sefydliadau lleol, ar gyfer y gwaith ailddatblygu.
Bydd diwrnod agored i drafod y cynlluniau ar 4 Chwefror, gyda'r cyngor yn gobeithio ailagor drysau'r hen adeilad i'r cyhoedd yn ystod yr haf.