Adeiladu pont dros dro wedi difrod ar yr A497
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Gwynedd wedi cadarnhau eu bod yn bwriadu adeiladu pont dros dro rhwng Efailnewydd a Boduan o fewn tair wythnos.
Bu'n rhaid cau'r A497 yn ardal Pont Bodfel ddydd Sadwrn ar ôl i gar chwalu darn o'r wal ar un ochr o'r bont a syrthio i Afon Rhyd-hir.
Roedd cau'r ffordd yn golygu bod rhai gyrwyr yn wynebu siwrne hirach - hyd at wyth milltir mewn rhai achosion.
Yn ôl Steffan Jones, Pennaeth dros dro Adran Priffyrdd Cyngor Gwynedd, bydd "codi pont newydd yn golygu fod yr A497 rhwng Efailnewydd a Boduan yn ail-agor cyn gynted â phosib".
Dywedodd y Cynghorydd Gareth Griffith, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros yr Adran Priffyrdd: "Bydd gosod y bont dros dro a chysylltu'r ffyrdd yn dipyn o her.
"Ond, os bydd y tywydd ar ein hochr rydym yn ffyddiog bydd y gwaith yn cael ei gwblhau o fewn y tair wythnos nesaf.
"Dyma'r ffordd gyflymaf o fedru ail-agor yr A497, a fydd hefyd yn lleihau'r risg o ddamweiniau ffordd ac yn galluogi'r gwasanaethau brys i ymateb i alwadau o'r ardal cyn gynted â phosib."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Ionawr 2019