Mwy o ysgolion Cymru yn y categori gorau na llynedd

  • Cyhoeddwyd
Disgybl ysgolFfynhonnell y llun, Matt Cardy

Mae perfformiad ysgolion Cymru wedi gwella ers llynedd, yn ôl y system genedlaethol sy'n eu gosod mewn categorïau lliw.

Caiff ysgolion eu labelu yn wyrdd, melyn, oren neu goch yn ôl faint o gymorth sydd eu hangen arnyn nhw.

Mae 41.6% bellach yn y categori gwyrdd - sydd angen y lleiaf o gymorth - sy'n gynnydd o 6.2% ers llynedd.

Ychydig dros 50 o'r 1,500 o ysgolion yng Nghymru sydd yn y categori coch ac felly angen y lefel uchaf o gefnogaeth.

Cafodd y drefn ar gyfer categoreiddio ysgolion ei chyflwyno yn 2014 i gymryd lle'r system fandio.

Yn ôl Llywodraeth Cymru dydy'r drefn ddim yn rhestru ysgolion yn ôl pa rhai sydd orau neu waethaf, ond yn ffordd i sicrhau eu bod yn cael y gefnogaeth sydd ei angen.

Mae'r ysgolion categori gwyrdd yn cael hyd at bedwar diwrnod o gymorth, gyda hyd at 25 ar gyfer yr ysgolion categori coch.

Llynedd, cafodd y ffordd mae'r categorïau'n cael eu penderfynu ei newid gyda mwy o bwyslais ar ffactorau fel arweinyddiaeth, lles ac ansawdd y dysgu, a llai ar ddata fel canlyniadau TGAU.

Categorïau'r ysgolion

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru

Mae 43% o ysgolion cynradd yn y categori uchaf ac 88% yn wyrdd neu felyn.

Traean o ysgolion uwchradd sydd yn y categori gwyrdd, gydag ychydig dros ddau draean yn wyrdd neu felyn.

Mae'r ffigyrau, sy'n cynnwys meithrinfeydd ac Unedau Cyfeirio Disgyblion, yn dangos bod 51 yn y categori coch gan gynnwys 22 ysgol uwchradd a 27 ysgol gynradd.

Mae dros hanner ysgolion arbennig yn y categori gwyrdd a dim un yn y categori coch.

Dadansoddiad Gohebydd Addysg BBC Cymru, Bethan Lewis

Dydy'r drefn yma ddim ynglŷn â labelu ysgolion fel y gorau neu'r gwaethaf, yn ôl gweinidogion, ond nid felly fydd nifer o rieni a rhai ysgolion hefyd yn ei gweld hi.

Ond mae'r darlun bras yn ddigon calonogol, gyda mwy o ysgolion yn wyrdd neu felyn.

Serch hynny dydy nifer yr ysgolion coch ddim wedi newid rhyw lawer, a bydd y darlun mewn rhai awdurdodau lleol yn destun pryder hefyd.

Yn ddiweddar fe wnaeth y Prif Arolygydd Ysgolion ddweud bod angen ystyried pa mor effeithiol yw'r drefn o gefnogi ysgolion sy'n cael trafferthion.

Ac mae rhai yn dweud dylid cael gwared ar y drefn o gategoreiddio yn llwyr, gan ddadlau nad yw'n cefnogi'r math o newidiadau dwfn sydd eu hangen i wella profiadau disgyblion.

Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams: "Rwy'n falch iawn bod mwy fyth o'n hysgolion bellach yn y categorïau gwyrdd a melyn, gan barhau'r duedd rydyn ni wedi bod yn ei gweld dros y blynyddoedd diwethaf.

"Mae'r system wedi datblygu'n un fwy soffistigedig dros y blynyddoedd.

"Mae bellach yn caniatáu ystyriaeth o lawer mwy o ffactorau sy'n ymwneud â gallu ysgol i wella. Mae hyn wedi arwain at raglen ymyrraeth a chymorth sydd wedi ei theilwra ac sy'n diwallu anghenion pob disgybl."

Darlun 'sefydlog'

Mae undeb dysgu NEU Cymru yn disgrifio'r darlun fel un "sefydlog".

Tra'n croesawu cynnydd yn nifer yr ysgolion gwyrdd a melyn mae'r undeb yn dweud bod methiant i leihau nifer yr ysgolion coch yn codi amheuon am waith y consortia rhanbarthol sydd i fod i wella perfformiad ysgolion.

Dywedodd ysgrifennydd yr undeb David Evans: "Mae angen i Lywodraeth Cymru edrych ar eu rôl ar frys ac asesu costau, buddion a'r risgiau ynghlwm â phob un o'r consortia rhanbarthol."