Ymgyrch gymunedol i brynu Tafarn y Plu yn parhau
- Cyhoeddwyd
Mae menter i brynu Tafarn y Plu yn Llanystumdwy wedi llwyddo i gasglu £63,000 gan gyfranddalwyr mewn cyfnod o bedwar mis.
Er bod y fenter heb lwyddo i gasglu'r targed gwreiddiol o £200,000, maen nhw'n benderfynol o barhau er mwyn prynu'r dafarn yn y pendraw.
Dywedodd Sion Jones, cyd-gyfarwyddwr y fenter bod yna "alw am dafarn yn y pentref".
Mae'r fenter wrthi'n ymgeisio am gymorth ariannol ychwanegol.
'Ddim am roi'r ffidil yn y to'
Ar ôl methu ag ennyn diddordeb prynwyr, cychwynnodd Mr Jones a'i gyfoedion y fenter i gasglu cyfranddalwyr gyda'r bwriad o brynu'r dafarn.
Cafodd yr ymgyrch i ddenu cyfranddalwyr ei lansio ym mis Medi 2018.
Y prif nod ydy cadw'r dafarn yn ganolfan gymunedol a "sicrhau y bydd cymeriad unigryw a Chymreig y dafarn yn ddiogel at y dyfodol".
"Er ein bod ni heb lwyddo i gyrraedd y targed ariannol, 'da ni ddim yn mynd i roi'r ffidil yn y to," meddai Mr Jones.
"Da ni wedi gweld diddordeb gan gyfranddalwyr ar draws Cymru gyfan, a thu hwnt yn America ac yng ngogledd Iwerddon hefyd."
Calon y gymuned
Ers 200 mlynedd, mae Tafarn y Plu wedi bod yn ganolbwynt pentref Llanystumdwy.
Bellach, hi yw'r unig fan cymunedol yn yr ardal, wrth i siopau a chaffis y pentref gau dros y blynyddoedd.
Dywedodd Glenda Ifans, un o'r cyfranddalwyr lleol: "Y dafarn ydy'r unig beth sydd ar ôl yn Llanystumdwy, nid oes unman arall i gymdeithasu, ac i gyfarfod.
"Os fysa'r dafarn yn cau mi fysa ni'n colli adnodd hollbwysig i'r gymuned."
Mae'r fenter wedi penderfynu cadw'r ffenestr gynnig yn agored, ac maen nhw wrthi'n ymgeisio am gymorth ariannol gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.