Pentrefwyr am brynu Tafarn y Plu yn Llanystumdwy
- Cyhoeddwyd
Clywodd cyfarfod cyhoeddus yn Eifionydd am gynlluniau i godi dros £200,000 er mwyn prynu tafarn ym mhentre' Llanystumdwy.
Mae Tafarn y Plu, sydd dros 200 mlwydd oed, wedi bod ar werth ers rhai blynyddoedd ond heb ennyn diddordeb.
Mae perchnogion presennol y dafarn, Ian a Cath Parri, eisiau ymddeol.
Bwriad y grŵp lleol Menter y Plu yw ceisio codi dros £200,000 er mwyn prynu'r safle a'i ailwampio.
Daeth dros 50 o bobl i'r cyfarfod nos Iau er mwyn trafod gwahanol syniadau.
Dywedodd cyd-gyfarwyddwr Menter y Plu, Sion Aled Jones: "Dan ni'n gobeithio hel o leiaf £200,000 i brynu'r tafarn ac ella dipyn mwy i ehangu'r gegin a ballu.
"Dwi yn ffyddiog - rhaid cofio mae tafarn y Plu wedi denu lot o sylw o tu allan i'r pentref.
"Mae'n drist gweld pentrefi gwag sydd yn ddim byd ond tai, dwi'n meddwl bod 'na fusnes yn fa'ma ac y byddai'n bechod mawr i'w golli."