Abertawe'n gwrthod cynnig Leeds am Daniel James
- Cyhoeddwyd
Mae asgellwr Cymru, Daniel James yn aros gyda Chlwb Pêl-droed Abertawe, er yr holl ddisgwyl ar ddiwrnod olaf y cyfnod trosglwyddo y byddai'n ymuno ar fenthyg am ffi o £2m â Leeds United tan ddiwedd y tymor.
Daeth cadarnhad ar y funud olaf nos Iau bod Abertawe yn anhapus gyda trefniadau'r taliadau.
Mae Leroy Fer yn aros hefyd er gwaethaf diddordeb gan Aston Villa.
Ond yn ôl y disgwyl mae'r ymosodwr Wilfried Bony wedi ymuno â'r clwb o Qatar, Al-Arabi, ar fenthyg tan ddiwedd y tymor.
Mae dau chwaraewr arall wedi symud i glybiau eraill ar fenthyg tan ddiwedd y tymor - Tom Carroll i Aston Villa a Jefferson Montero i West Bromwich Albion.
Dydy'r asgellwr o Ecuador heb ddechrau gêm i'r Elyrch eleni, ond wedi gwneud ymddangosiad o'r fainc 13 o weithiau.
Mae'r ymosodwr ifanc, Biabi Biotti hefyd wedi mynd ar fenthyg i Macclesfield Town.
Mae'n debyg fod Abertawe wedi bod yn ceisio rhyddhau Bony ers tro gan ei fod yn ennill un o'r cyflogau uchaf yn y clwb.
Bydd ei gytundeb ag Abertawe yn dod i ben yn yr haf.
Ers arwyddo i Abertawe am yr ail dro yn 2017, fe wnaeth Bony fethu 10 mis o chwarae drwy anaf i'w ben-glin, a dim ond saith o weithiau mae'r ymosodwr wedi chwarae dan reolaeth Graham Potter.