Chwe Gwlad: Merched Ffrainc 52-3 Merched Cymru
- Cyhoeddwyd

Robyn Wilkins sgoriodd unig bwyntiau Cymru o'r gêm
Sgoriodd Caroline Thomas dri chais wrth i dîm rygbi merched Ffrainc ennill yn gyfforddus o 52-3 yn erbyn Cymru yng ngem gyntaf Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Llwyddodd Ffrainc i gael pwynt bonws hefyd cyn yr ail hanner diolch i geisiau Thomas, Safi N'Diaye a Lea Murie.
Daeth unig bwyntiau Cymru yn dilyn cic gosb lwyddiannus gan Robyn Wilkins.
Seliodd Ffrainc y fuddugoliaeth ar ôl i Romane Menager groesi ddwy waith, Thomas unwaith eto yn tirio am ei thrydedd cais, a rhediad Roriane Constanty i sgorio cais wych.
Daeth cais olaf y gêm wrth i Murie groesi am ei hail gais o'r noson.
Bydd Cymru yn wynebu'r Eidal ddydd Sadwrn nesaf yn Lecce. Llwyddodd yr Eidal i ennill eu gem agoriadol yn erbyn yr Alban.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Ionawr 2019