Gwasanaeth Great Western Railway 'ddim yn ddigon da'

  • Cyhoeddwyd
tren GWRFfynhonnell y llun, GWR

Mae un o brif reolwyr cwmni trenau wedi cael ei gyhuddo o ddangos diffyg ymwybyddiaeth o rai o'r problemau sy'n eu hwynebu.

Yn ôl yr Aelod Seneddol Llafur Stephen Doughty, mae rheolwr gyfarwyddwr Great Western Railway (GWR), Mark Hopwood, wedi bod yn "amharod" i fynd i'r afael â'r "methiannau" yn y blynyddoedd diwethaf.

Ychwanegodd AS De Caerdydd a Phenarth bod gwasanaeth GWR wedi "dirywio'n ddifrifol" yn ddiweddar.

Mae GWR yn dadlau nad yw ei sylwadau adlewyrchu'r sefyllfa.

Bu Mr Doughty yn arwain trafodaeth yn San Steffan ar berfformiad GWR ddydd Mawrth.

Beirniadu 'problemau sylweddol'

Roedd ASau'n feirniadol o rai o'r gwasanaethau, o orlenwi trenau ac o brisiau tocynnau.

Fe ddangosodd ffigyrau ym mis Awst bod nifer y trenau gafod eu canslo ar gyfer rhai gwasanaethau penwythnos a gŵyl y banc rhwng Cymru a Lloegr wedi mwy na dyblu.

Roedd Mr Doughty yn feirniadol o'r "problemau sylweddol" ar y rhwydwaith yn y blynyddoedd diwethaf, gan ddweud bod y gwasanaethau "ddim yn ddigon da".

Ychwanegodd: "Mae'n ddrwg gen i ddweud ei fod yn ymddangos nad yw rheolwr gyfarwyddwr GWR Mark Hopwood yn ymwybodol o'r problemau, a'i fod yn amharod i neu'n methu datrys y methiannau niferus a fu dros y blynyddoedd diwethaf."

Dywedodd AS Llafur Dwyrain Casnewydd Jessica Morden ei bod wedi trafod y broblem o orlenwi a dibynadwyedd y gwasanaeth gyda Mr Hopwood.

Roedd hi'n mynnu iddo wrando "ar y problemau penodol yma".

'Hawl i fod yn rhwystredig'

Yn ôl llefarydd ar ran Great Western Railway, mae'r ffigyrau yn awgrymu nad yw sylwadau Mr Doughty yn adlewyrchu'r sefyllfa.

Ond fe dderbyniodd y cwmni nad oedd eu perfformiad y llynedd yn "ddigon da".

Ychwanegodd: "Mae gan ein cwsmeriaid ni bob hawl i fod yn rhwystredig ac rydym yn ymddiheuro i unrhyw un sydd wedi ei effeithio.

"O ganlyniad, rydym wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid ar draws y diwydiant i roi cynllun gwella perfformiad ar waith.

"Er bod 'na fwy i wneud, mae hyn wedi ein gweld yn darparu 72% o'n trenau rhwng de Cymru a Paddington ar amser chwe mis yn ôl (Mehefin 2018) i dros 90% heddiw (Rhagfyr/Ionawr 2019)."