Rhybudd melyn am wyntoedd cryfion nos Fercher

  • Cyhoeddwyd
Rhybudd MelynFfynhonnell y llun, Y Swyddfa Dywydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r rhybudd mewn grym tan fore dydd Iau

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd am wyntoedd cryfion ar hyd y wlad nos Fercher.

Bydd y rhybudd melyn mewn grym rhwng 22:00 nos Fercher a 09:00 ddydd Iau.

Mae disgwyl i'r gwynt fod ar ei gryfaf yn y de a'r gorllewin, gyda phosib i'r gwyntoedd gyrraedd 60-70mya mewn ardaloedd arfordirol.

Rhybuddiodd y Swyddfa Dywydd fod posib i gyflenwadau trydan gael eu heffeithio mewn mannau a bod trafferthion neu oedi wrth deithio yn bosib.