£35m i greu diwydiant dur glân

  • Cyhoeddwyd
dur

Mae Prifysgol Abertawe wedi eu dewis i arwain cynllun £35m sy'n ceisio creu diwydiant dur sy'n llai niweidiol i'r amgylchedd.

Bydd y brifysgol yn arwain rhwydwaith o arbenigwyr a chwmnïau dur mewn ymgais i greu dulliau cynhyrchu glân.

Bwriad y rhwydwaith, o'r enw SUSTAIN yw ceisio lleihau gwastraff a sicrhau diwydiant carbon niwtral erbyn 2040.

Mae'r rhwydwaith yn ymchwilio i ddulliau o gipio allyriadau carbon a defnyddio ffynonellau ynni newydd.

Yn ôl Dr Cameron Playdell-Pearce, arbenigwr dur ym Mhrifysgol Abertawe: "Mae hyn yn dangos hyder mawr yn nyfodol y diwydiant dur.

"Mae ymchwil, a dod o hyd i ddulliau newydd o weithio, yn hollbwysig i ddatblygiad y diwydiant ac mae'r rhwydwaith yma yn cynrychioli rhan helaeth o'r sector dur."

Mae'r buddsoddiad o £35m yn cynnwys £10m gan Gyngor Ymchwil y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg.

Bydd y prosiect yn ceisio datblygu dulliau cynhyrchu arloesol a chronfeydd data arbenigol er mwyn moderneiddio gweithfeydd ymhob rhan o Brydain.

Fe allai hynny, yn ôl arweinwyr y prosiect, arwain at gynnydd o hyd at 15% mewn effeithlonrwydd yn ystod y prosesau cynhyrchu.