'Cyfrifoldeb ar siaradwyr Cymraeg i ddefnyddio'r iaith'
- Cyhoeddwyd
Mae gan siaradwyr Cymraeg gyfrifoldeb i'w defnyddio os ydyn nhw am weld mwy o wasanaethau'n cael eu cynnig yn yr iaith, yn ôl y gweinidog sydd â chyfrifoldeb amdani.
Dywedodd Eluned Morgan bod angen "troedio'n ofalus" rhag ofn i gwmnïau gael eu hatal rhag symud i Gymru am eu bod yn pryderu bod angen delio â chwsmeriaid yn y Gymraeg.
Gallai deddfwriaeth sy'n gorfodi i'r sector preifat gynnig gwasanaethau yn yr iaith fod yn bosib yn y dyfodol, meddai, ond ychwanegodd bod angen i bobl ddefnyddio'r gwasanaethau Cymraeg sy'n bodoli eisoes cyn symud ymlaen at wneud hynny.
Fe wnaeth Ms Morgan hefyd amddiffyn ei phenderfyniad i gael gwared ar y cynlluniau am Fesur Iaith newydd, gan fynnu nad oedd arian wedi cael ei wastraffu.
Penderfynodd Llywodraeth Cymru i gefnu ar y mesur, fyddai wedi diddymu rôl Comisiynydd y Gymraeg, yn gynharach yn y mis.
0.01% yn defnyddio gwasanaethau
Dywedodd Ms Morgan wrth Bwyllgor Diwylliant y Cynulliad bod angen i'r llywodraeth "annog, canmol a diolch" i gwmnïau yn y sector preifat sy'n defnyddio'r Gymraeg.
Ond dywedodd mai ychydig iawn o bobl sy'n defnyddio'r gwasanaethau Cymraeg sydd eisoes ar gael yn y sector cyhoeddus.
Dywedodd y gweinidog bod 9% o bobl Pen-y-bont ar Ogwr yn gallu siarad Cymraeg, ond mai dim ond 0.01% ohonynt sy'n defnyddio gwasanaethau'r cyngor yn yr iaith.
"Mae'n anodd i ni werthu'r angen i wneud hynny i'r sector preifat," meddai.
"Felly rwy'n credu bod angen i ni ofyn i'r comisiynydd wneud llawer mwy am y defnydd o'r gwasanaethau.
"Mae'n anodd iawn - dyna'r ymateb rydw i wedi'i gael yn aml gan gwmnïau sydd eisoes yn cynnig gwasanaethau Cymraeg yn y sector preifat. Dyw siaradwyr yr iaith ddim yn eu defnyddio.
"Rwy'n credu bod cyfrifoldeb ar siaradwyr Cymraeg i ddefnyddio'r gwasanaethau. Ar hyn o bryd dy'n nhw ddim yn gwneud hynny."
Ychwanegodd nad oedd hi eisiau gweld cwmnïau yn penderfynu yn erbyn symud i Gymru am eu bod yn poeni'n ormodol am gynnig gwasanaethau yn y Gymraeg.
Mae angen gwell data ar faint o bobl sy'n defnyddio gwasanaethau yn yr iaith, meddai Ms Morgan, gan ychwanegu bod angen i Gomisiynydd y Gymraeg edrych ar safon yr ystadegau sydd ar gael.
Dywedodd bod sefydliadau angen help y comisiynydd i ddefnyddio'r iaith, yn hytrach na chael ei gweld fel rhywun sy'n gorfodi'r rheol.
Bydd cyn-AC y Democratiaid Rhyddfrydol, Aled Roberts yn olynu Meri Huws fel Comisiynydd y Gymraeg fis nesaf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd27 Tachwedd 2018