Airbus A380: 'Dim disgwyl effaith ar staff' medd arbenigwr

  • Cyhoeddwyd
Airbus A380Ffynhonnell y llun, Mary Evans Picture Library

Mae arbenigwr yn y diwydiant awyr wedi dweud nad yw hi'n credu y bydd penderfyniad Airbus i stopio cynhyrchu awyrennau A380 yn effeithio ar staff y cwmni yn Sir y Fflint.

Mae Airbus yn cyflogi 6,000 o staff ym Mrychdyn, ble mae adenydd yr awyren A380, ac eraill, yn cael eu cynhyrchu.

Fe gadarnhaodd Airbus eu bod yn stopio cynhyrchu'r awyren deithiol fwyaf yn y byd yn dilyn cwymp yn nifer yr archebion.

Dywedodd Sally Gethin nad yw hi'n credu bydd effaith ar staff ym Mrychdyn gan fod "llinell gynhyrchu gryf" yno.

'Awyren wedi dyddio'

"Bydd hyn yn ergyd i'w hysbryd. Mae'r super jumbo yn frand pwysig i Airbus. Ond o fewn y diwydiant, nid yw'r newyddion wedi dod fel sioc enfawr.

"Yn syth ers i'r awyren ddechrau cael ei defnyddio, roedd hi wedi dyddio, gan fod y farchnad deithio wedi newid.

"Doedd dim galw am awyren mor fawr."

Disgrifiad o’r llun,

Mae 6,000 o staff yn cael eu cyflogi ar safle Airbus ym Mrychdyn, Sir y Fflint

Daw penderfyniad Airbus ar ôl i gwmni Emirates leihau eu harcheb o 162 awyren i 123.

"O ganlyniad i'r penderfyniad hwn does dim archebion wrth gefn am yr A380, felly does dim rheswm i ni barhau gyda'r cynhyrchu," meddai Prif Weithredwr Airbus, Tom Enders.

"Bydd hyn yn golygu diwedd ar ddarparu'r A380 erbyn 2021."

Ychwanegodd Ms Gethin: "Bydd angen edrych ar effeithiau allanol eraill fel Brexit allai gael effaith.

"Ond, dwi ddim yn credu bydd yr A380 yn ergyd i ddyfodol Brychdyn na'r safle yn Filton."

'Ansicrwydd'

Er hynny, dywedodd undeb Unite bod y cyhoeddiad yn "ergyd fawr" i weithlu Brychdyn.

Dywedodd Peter Hughes, Ysgrifennydd Rhanbarthol Cymru Unite: "Bydd yr ansicrwydd yn dilyn cyhoeddiad heddiw yn cael ei deimlo gan y gadwyn gyflenwi estynedig sy'n gysylltiedig â chynhyrchu'r A380."

Ychwanegodd bod y "gadwyn gyflenwi yn rhan bwysig o economi gogledd Cymru", ac y byddai cyflogwyr angen "cefnogaeth helaeth" gan y llywodraeth i ddygymod ag unrhyw golledion busnes.

Dywedodd Ysgrifennydd Economi Llywodraeth Cymru, Ken Skates, bod y cyhoeddiad yn "siomedig", ond ei fod yn grediniol bod "gweithlu a rheolwyr gwych" y safleoedd yng Nghymru yn rhoi'r cwmni "mewn sefyllfa gref i ddatblygu ar gyfer y dyfodol".