Cerddorion eisiau sbarduno sgwrs am annibyniaeth
- Cyhoeddwyd

Bydd Charlotte Church's Pop Dungeon yn un o'r bandiau fydd yn perfformio nos Wener
Bydd cerddorion adnabyddus yn perfformio yng Nghaerdydd nos Wener, gyda'r bwriad o ddechrau sgwrs ynglŷn â'r posibilrwydd o annibyniaeth i Gymru.
Cyn y gig yn y Tramshed, mae rhai sydd ynghlwm â'r fenter wedi galw ar bobl i uno a siarad yn gall am ddyfodol y wlad ar ôl Brexit, beth bynnag eu daliadau gwleidyddol.
Mae Charlotte Church, Cian Ciarán a Gruff Rhys o'r Super Furry Animals, Gwenno ac enillwyr y Wobr Gerddoriaeth Gymreig eleni, Boy Azooga, yn rhan o'r gynghrair o artistiaid sydd wedi dod at ei gilydd i sbarduno'r sgwrs.
Dan adain Yes Is More!/Gellir Gwell! y bwriad yw cynnal cyfres o ddigwyddiadau creadigol gyda'r gobaith o annog pobl i feddwl am ddyfodol y wlad.

Dywedodd Cian Ciarán bod cerddoriaeth yn "rhoi gobaith i bobl"
Yn ôl Mr Ciarán - sy'n rhan o drefnu'r gig - syniad y fenter yw defnyddio cerddoriaeth i geisio sbarduno pobl i feddwl am eu bywydau.
"Yn hanesyddol mae cerddoriaeth fel arfer ynghlwm â'r amgylchedd sydd o dy gwmpas - be' sy'n digwydd yn dy bentref, dy ddinas, dy wlad," meddai.
"Ella ei fod o'n rhoi gobaith i bobl, sydd yr un mor bwysig, yn enwedig yn ddiweddar - dwi'n meddwl bod pobl angen gobaith."

Yn ôl Charlotte Church gall cerddoriaeth ysgogi dadl ond hefyd ddod â phobl ynghyd
Dywedodd Ms Church, fydd yn perfformio gyda'i band Charlotte Church's Pop Dungeon nos Wener, ei bod yn credu bod y fenter yn ffordd bositif o ddechrau sgwrs am ddyfodol Cymru ar ôl Brexit.
"Rwy'n meddwl bod gan gerddoriaeth ran i'w chwarae, yn enwedig pan fo pethau'n mynd yn eithaf cas," meddai.
"Mae cerddoriaeth yn ffordd i bobl gael dadl, weithiau rhwng pobl sydd â daliadau gwleidyddol cwbl wahanol, ond dod ynghyd dros y gerddoriaeth."

Dywedodd Griff Lynch bod canu gwleidyddol wedi bod yn draddodiadol yn yr iaith Gymraeg
Mae cerddoriaeth wedi chwarae rôl amlwg mewn ymgyrchoedd gwleidyddol yng Nghymru dros y blynyddoedd.
Ond mae'r digwyddiad nos Wener a'r symudiad mae'r grŵp yn gobeithio ei ysgogi yn wahanol i ymgyrchoedd y gorffennol am fod mwyafrif y bandiau yn uniaith Saesneg.
Dywedodd y cerddor a'r cynhyrchydd teledu Griff Lynch: "Un o'r pethau am ganu yn wleidyddol yng Nghymru ydy ei fod o wastad wedi perthyn i ganu o fewn yr iaith Gymraeg.
"Felly yn y gig yma, ti'n cael bandiau sy'n boblogaidd ledled Prydain yn canu a rhoi eu henwau mewn enw annibyniaeth, ac mae hynny'n rhywbeth newydd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Hydref 2018